Gall pobl ifanc sydd am fod yn grefftus dros yr haf deithio’n ôl i’r gorffennol yn ystod gweithdai galw heibio canoloesol yng Nghastell Ystumllwynarth y mis hwn.
Bob dydd Mercher ym mis Awst, bydd gan blant y cyfle i greu eu coronau, eu tiaras, eu bathodynnau neu eu llyfrnodau canoloesol eu hunain wedi’u hysbrydoli gan y lle y bu Arglwyddi Gŵyr yn rheoli Abertawe erstalwm.
Cynhelir y gweithdai rhwng 11am a 3.30pm ac maent yn addas i blant rhwng 3 ac 11 oed. Pris mynediad i’r gweithdai yw £1 i bob plentyn yn ogystal â ffïoedd mynediad arferol y castell.
Castell Ystumllwynarth yw un o’r cestyll mwyaf atgofus yng Nghymru, ac ni allwch ei golli ar ei domen uwchben y Mwmbwls. Mae gan y castell waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Mae tiroedd y castell hefyd yn cynnal eu digwyddiadau Theatr Awyr Agored enwog gyda Gangsta Granny’n diddanu teuluoedd ar 21 Awst a bydd clasur Emily Brontë, Wuthering Heights, ar 29 Awst.
Mae Castell Ystumllwynarth ar agor i’r cyhoedd rhwng 11am a 5pm bob dydd Mawrth i ddydd Sul tan 29 Medi ac, am y tro cyntaf erioed, bydd ar agor bob penwythnos ym mis Hydref.
Ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth am fwy o wybodaeth am y castell a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.