Gall pobl ifanc sydd am fod yn dywysog neu’n dywysoges am y diwrnod gael eu castell eu hunain hefyd os ydynt yn mynd i Gastell Ystumllwynarth y penwythnos nesaf.
Bydd tywysogion a thywysogesau’n gallu gwireddu eu breuddwydion a’u hoff straeon tylwyth teg mewn castell canoloesol go iawn, gan ddysgu mwy am yr hyn a ddigwyddodd yno yn nyddiau marchogion Normanaidd ac Arglwyddi Penrhyn Gŵyr.
Mae’r Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau’n un o nifer o ddigwyddiadau hanesyddol a gynhelir yn y castell dros wyliau’r haf.
Cynhelir Diwrnod Sgiliau a Chrefftau Traddodiadol ddydd Llun Gŵyl y Banc, 27 Awst, gydag adloniant i ymwelwyr a fydd yn gallu arsylwi ar rai o’r crefftau a’r gweithgareddau a fu’n cadw castell canoloesol go iawn yn y cyflwr gorau, ac ymuno yn y gweithgareddau hefyd.
Bob dydd Mercher ym mis Awst, bydd yna gyfle i blant ddatblygu eu sgiliau creadigol mewn gweithdai galw heibio lle gallant wneud eu coronau, eu tiaras, eu bathodynnau neu eu llyfrnodau eu hunain. Cynhelir y gweithdai rhwng 11am a 3.30pm ac maent yn addas i blant rhwng 3 ac 11 oed. Pris mynediad i’r gweithdai yw £1 i bob plentyn yn ogystal â ffioedd mynediad arferol y castell.
Castell Ystumllwynarth yw un o’r cestyll mwyaf atgofus yng Nghymru, ac ni allwch ei golli ar ei domen uwchben y Mwmbwls. Mae gan y castell waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’r cyngor yn gweithio’n galed ar y cyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth, i gynnal yr atyniad hanesyddol a hefyd i drefnu nifer o ddigwyddiadau sy’n addas i deuluoedd bob haf.
“Daeth miloedd ar filoedd o bobl i ymweld â Chastell Ystumllwynarth yr haf diwethaf i fwynhau detholiad o weithgareddau, felly rydym yn disgwyl niferoedd tebyg eleni. Mae’r castell yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr sydd yr un mor hwyl ag y mae’n addysgol, ac mae’n rhoi hwb i dwristiaeth yn Abertawe hefyd.”
Mae Castell Ystumllwynarth ar agor rhwng 11am a 5pm bob dydd tan 30 Medi.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth am fwy o wybodaeth am y castell a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.