Bydd jyglwr sy’n cerdded ar ystudfachau mewn gwisg dyn iâ, arddangosiadau sglefrio iâ ac ardal lwyfan gyda cherddoriaeth Nadoligaidd yn helpu i ddechrau hwyl yr ŵyl yn atyniad Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’r ddinas yn nes ymlaen yr wythnos hon.
Cyngor Abertawe sy’n trefnu’r atyniad hwn ym Mharc yr Amgueddfa, sy’n agor ar gyfer 2017 nos Wener 17 Tachwedd am 5pm.
Bydd jyglwyr tân hefyd yn ymddangos ar noson y parti lansio agoriadol, trwy garedigrwydd Jimmy Juggle Entertainments.
Disgwylir i filoedd o bobl fwynhau’r hwyl unwaith eto, gan gynnwys prif lyn iâ Admiral, llyn iâ bach Admiral i blant a’r olwyn enfawr 100 troedfedd, tan 7 Ionawr.
Bydd y Moose Head Bierkeller dan do yn newydd ar gyfer 2017, ac yn gweini gwin y gaeaf a cyrfau traddodiadol.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae’r gwaith i adeiladu Gwledd y Gaeaf ar y Glannau 2017 wedi hen ddechrau ym Mharc yr Amgueddfa wrth i ni barhau i baratoi ar gyfer parti lansio nos Wener.
“Yn ogystal â’r hwyl ychwanegol sy’n cael ei threfnu ar gyfer y noson ei hun, bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau unwaith eto’n cynnwys dau lyn iâ, yr olwyn enfawr, groto Siôn Corn a chabanau bwyd Alpaidd.
“Bydd y ffair hwyl yn cynnwys dwy reid newydd ar gyfer 2017 – Sky View a Space – yn ogystal â reid o’r enw Snow Storm a reidiau fel y carwsél traddodiadol i bobl sy’n ffafrio profiad mwy hamddenol.
“Mae gennym ddeuawd sglefrio iâ a fydd cyn bo hir yn perfformio ym Mhencampwriaethau Prydain yn rhoi arddangosiad nos Wener, felly mae llawer o bethau i bobl edrych ymlaen atynt.
“Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau’n un o nifer o atyniadau sy’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ‘Y Nadolig yn Abertawe’ ar gyfer eleni.
Bydd Marchnad y Nadolig hefyd ar agor ar Stryd Rhydychen o ddydd Gwener 17 Tachwedd, gyda thros 40 o gabanau Nadoligaidd coch a gwyrdd. Bydd Marchnad y Nadolig, lle gwerthir celfyddyd a chrefft, bwyd Nadoligaidd, addurniadau a rhoddion ac sydd hefyd yn cynnwys bar Nadoligaidd, yn cael ei chynnal tan nos Iau 21 Rhagfyr. Bydd ar agor o 9.30am tan 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac o 10am tan 5pm ar ddydd Sul.
Codir Groto Siôn Corn ar Stryd Portland ger Sgwâr y Castell o ddydd Sadwrn 18 Tachwedd i ddydd Iau 21 Rhagfyr, gan roi cyfle i ymwelwyr dderbyn anrheg Nadolig a chael tynnu eu lluniau gyda Siôn Corn.
Mae coeden Nadolig canol y ddinas, a noddir gan Unsain, bellach yn ei lle ger pen Ffordd y Dywysoges sy’n agos i Ffordd y Brenin, mewn pryd ar gyfer Gorymdaith y Nadolig sy’n dychwelyd i Abertawe nos Sul 19 Tachwedd.
Bydd cyfle i siopa gyda’r hwyr yng nghanol y ddinas bob nos Iau yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Ewch i www.nadoligabertawe.com i gael mwy o wybodaeth.