Treuliodd actorion a chriw ‘Their Finest’, comedi ramantus wedi’i gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sawl wythnos yn ffilmio yn adeiladau Abertawe, gan gynnwys Neuadd y Ddinas a Theatr y Grand, yr hydref diwethaf.
Gyda Gemma Arterton, Sam Clafin, Bill Nighy a Jeremy Irons ymhlith y sêr sy’n actio ynddi, mae’r ffilm yn adrodd stori tîm o Weinyddiaeth Wybodaeth Prydain wrth iddynt fynd ati i greu ffilm i hybu morâl am ymgiliad Dunkirk yn ystod Brwydr Prydain a Blitz Llundain.
Mae Arterton, 30 oed, hefyd wedi actio yn y ffilm James Bond, ‘Quantum of Solace’, ynghyd â Daniel Craig, ac mae Claflin, hefyd yn 30 oed, yn adnabyddus am ei rôl yng nghyfres ‘The Hunger Games’.
Mae ‘Their Finest’, sy’n seiliedig ar nofel o 2009 gan Lissa Evans, hefyd yn cynnwys Richard E. Grant a Helen McCrory.
Bu Cyngor Abertawe’n gweithio’n agos gyda’r cwmni cynhyrchu sy’n gyfrifol am y ffilm i sicrhau bod eu defnydd o Theatr y Grand a Neuadd y Ddinas mor ddidrafferth â phosib.
Helpodd y cyngor i hwyluso gwaith ffilmio ar Stryd Morgannwg a ger Heol Parc y Rhyddings hefyd.
Dywedodd Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae adolygiadau cynnar ar gyfer ‘Their Finest’, yn seiliedig ar ddarllediadau ymlaen llaw, wedi bod yn galonogol dros ben gydag adeiladau Abertawe – megis Neuadd y Ddinas a Theatr y Grand – yn amlwg, nid yn y rhaglun ffilm yn unig ond yn y lluniau sydd newydd gael eu rhyddhau hefyd.
“Mae Gemma Arterton, Bill Nighy, Jeremy Irons a Richard E. Grant ymhlith y sêr mwyaf ym myd sinema Prydain felly roedd eu croesawu i Abertawe yn newyddion gwych i’r ddinas. Mae’r mathau hyn o weithgareddau yn helpu i ddenu twristiaeth, codi proffil Abertawe a chreu gwariant yn ein busnesau lleol oherwydd y nifer mawr o gast a chriw sy’n aros yn y ddinas yn ystod y cyfnod ffilmio.
“Mae’r diwydiant hwn hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth helpu i gefnogi a datblygu ein heconomi a’n strategaeth greadigol a diwylliannol, sy’n cael llawer o sylw ar hyn o bryd o ganlyniad i’n cynnig i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021.”
Cafodd rhannau o Neuadd y Ddinas eu trawsnewid i leoliad eiconig Gwesty Chelsea yn ninas Efrog Newydd yn 2015 ar gyfer ffilm am Dylan Thomas o’r enw ‘Set Fire to the Stars’. Mae cyn-sêr Doctor Who, megis David Tennant a Kylie Minogue, wedi ymweld ag Abertawe yn y gorffennol i ffilmio golygfeydd ar gyfer rhaglen ffugwyddonol boblogaidd y BBC.
Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel cefndir i lawer o olygfeydd yn ‘The Collection’ hefyd – cyfres ar Amazon Prime wedi’i gosod mewn tŷ ffasiwn ym Mharis ar ôl y rhyfel.
Dywedodd Frances, “Sefydlon ni siop dan yr unto nifer o flynyddoedd yn ôl i ymdrin ag ymholiadau ffilmio, hyrwyddo Abertawe fel cyrchfan sy’n addas ar gyfer ffilmio a gwneud y broses mor hwylus ag y bo modd i gwmnïau cynhyrchu sy’n cysylltu â ni. Oherwydd yr ymagwedd hon, rydym yn llwyddiannus iawn wrth droi ymholiadau’n waith ffilmio – yn enwedig pan nad oes angen lleoliad unigryw ar y cwmnïau ac rydym yn cystadlu â lleoliadau eraill.”
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English