Parc trefol hynod boblogaidd. Yn ogystal â chyfleusterau ardderchog, mae gan y parc ystafell ddosbarth unigryw hefyd, y Ganolfan Ddarganfod.
Mae’r cyfleuster modern yn darparu canolbwynt arbennig i archwilio hanes a bywyd gwyllt y parc. Mae’r ganolfan ger llyn mawr a’i holl fywyd gwyllt amrywiol.
Cyfleusterau
- Lawnt fowlio
- Ardal chwarae i blant
- Canolfan Ddarganfod
- Llyn
- Toiledau
- Ciosg
Nodweddion rhagorol
Mae’n werth ymweld â’r Ganolfan Ddarganfod. Yn ogystal â chelf a chrefft a gemau rhyngweithiol ar gyfer y plant, mae amrywiaeth o weithgareddau addysgol i oedolion hefyd. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys ffenest wydr mawr lle gallwch weld yr adar a’r bywyd gwyllt yn eu cynefinoedd naturiol.
Hanes
Yn llawn o hanes lleol, hwn oedd y parc cyntaf yn Abertawe i fod yn anffurfiol ac yna’n ffurfiol. Mae’n dyddio’n ôl i 1872 ac mae’r parc o ddiddordeb cenedlaethol oherwydd ei nod Gradd II yng Nghofrestr Cadw o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol. Ar lefel leol, datblygodd y parc ochr yn ochr â thwf cynnar Abertawe ac roedd ei gronfa ddwr yn cyflenwi dwr domestig, ac yn rhan bwysig o fywyd actif preswylwyr y ddinas yr oedd y parc yn le arbennig iddynt. Mae ennill grant Treftadaeth y Loteri yn ddiweddar wedi ein galluogi i adnewyddu’r parc i’w ogoniant blaenorol.
Upcoming Events
Getting there
Address
Brynmill
Swansea
SA2 0JQ
Wales