Bydd tân gwyllt ac adloniant byw ar y llwyfan yn rhan o ddigwyddiad Cyngor Abertawe, a bydd y gatiau’n agor am 5pm.
Bydd Heart FM, partner radio swyddogol Joio Bae Abertawe, hefyd yn darlledu’n fyw o’r digwyddiad ar y noson.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae Arddangosfa Tân Gwyllt fwyaf Abertawe’n ffefryn ar raglen ddigwyddiadau a gweithgareddau flynyddol Joio Bae Abertawe, gyda’r cyfle ar gael tan ddiwedd yr wythnos i arbed arian ar docynnau cynnar.
“Mae’r digwyddiad, sydd hefyd yn cynnwys adloniant byw ar y llwyfan, yn rhatach na’r rhan fwyaf o becynnau arddangosfeydd tân gwyllt DIY, gan alluogi pobl i fwynhau arddangosfeydd tân gwyllt gwefreiddiol i bobl eu mwynhau mewn lleoliad diogel a threfnus.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynd i brynu tocynnau cyn y penwythnos er mwyn gwneud arbedion cyn noson wych o adloniant yn San Helen.”
Caiff manylion yr adloniant cerddorol byw eu cyhoeddi cyn gynted â’u bod wedi’u cadarnhau.
Gallwch naill ai brynu tocynnau yn joiobaeabertawe.com neu drwy ffonio 01792 637300. Mae tocynnau hefyd ar gael o Ganolfan Dylan Thomas, Derrick’s Records, Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt, Canolfan Hamdden Cefn Hengoed, Canolfan Hamdden Treforys, Canolfan Hamdden Penlan a Chanolfan Hamdden Penyrheol.
Bydd yr adloniant yn dechrau am 5.30pm gyda’r arddangosfa tân gwyllt yn dechrau am 7pm.
Bydd deiliaid tocynnau’n gallu parcio am ddim yn y Rec, ond cyntaf i’r felin fydd hi. Bydd mannau parcio ychwanegol ar gael ym meysydd parcio Neuadd Brangwyn neu Neuadd y Ddinas, ac mae mannau parcio i bobl anabl ar gael ym Mharc Victoria o Stryd Francis. Bydd lle parcio gorlif hefyd ar gael yn y Ganolfan Ddinesig.