Nos Fawrth 25 tan nos Sadwrn 29 Medi 2018 am 6.30pm
Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer Nawr yr Arwr sy’n dod i Abertawe o 25 i 29 Medi am bum noson o theatr drawiadol.
Bydd y perfformiad yn mynd â’r gynulleidfa ar daith hynod o draeth enfawr Abertawe i leoliad croesawgar Neuadd Brangwyn y ddinas.
Mae Marc Rees, artist a aned yn Abertawe, wedi creu prosiect penodol i’r sy’n prif ran o dymor olaf 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau’r DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn agor Gŵyl Ryngwladol Abertawe eleni.
Trwy ddawns, celf, rhyddiaith a pherfformiad mae’r digwyddiad coffa pwerus hwn yn plethu tair stori am ryfel; Rhyfelwr Celtaidd, milwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Capten David Williams, milwr cyfoes o Abertawe. Yn dechrau ar Fae Abertawe, ger Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360, caiff cynulleidfaoedd eu harwain gan brif gymeriad y sioe, y Gwrthdystiwr dros Heddwch, sy’n cyflwyno persbectif amgen i stori’r milwr cyfoes.
Yn ganolog i Nawr yr Arwr yw galargerdd hyfryd a gyfansoddwyd gan Owen Morgan Roberts – a oedd wedi’i hysbrydoli gan ei gydweithrediad gwreiddiol â’r diweddar Jóhann Jóhannsson (The Theory of Everything, Arrival), a enwebwyd am Oscar. Ysgrifennwyd y libreto gan Owen Sheers, enillydd Bafta Cymru ac Athro mewn Creadigedd Prifysgol Abertawe, a gaiff ei ganu gan gôr byd-enwog Stephen Layton, Polyphony, sydd eisoes wedi’i enwebu am Grammy.
Disgwyliwch brofi golygfeydd o ryfel a myfyrdodau ar yr un pwnc o’r gorffennol a’r presennol mewn perfformiad wedi’u hysbrydoli gan gerdd arwrol (Y Gododdin) a phaneli enwog y Brangwyn – ynghyd â myfyrdodau ar heddwch trwy ymosodiad milwrol, parti priodas aflafar, dawns brotest a gwylnos hynafol.
Byddwch yn rhan ohoni
Ynghyd â’r cast gwych o berfformwyr, mae Marc Rees yn gwahodd aelodau’r gymuned leol i gymryd rhan yn yr adroddiad barddoniaeth, y ddawns brotest a’r wylnos hynafol.
Meddai Marc Rees, “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi darganfod dro ar ôl tro y gall gweithiau diwylliant a chreadigrwydd agor cymunedau yn ogystal ag adeiladau sydd wedi’u cau ers blynyddoedd. Ac nid eithriad yw Nawr yr Arwr ynghyd â chydweithio ag artistiaid rhyngwladol clodwiw, mae gennym bobl leol dalentog sy’n creu gwaith mewn ymateb i brif themâu Nawr yr Arwr. Caiff y gwaith hwn ei arddangos fel rhan o’n gŵyl fechan, NAWR AM FWY, a gynhelir ar draws y ddinas (cyn ac yn ystod cyfnod y perfformiadau).
Ychwanegodd Marc, “Ni allaf feddwl am well ffordd o nodi blwyddyn olaf 14-18 NOW na chreu cynhyrchiad Cymreig diffiniol, mewn coffâd ingol a fydd yn rhoi Abertawe ar y map.’
Mae’r Gwrthdystiwr dros Heddwch, sy’n cael ei chwarae gan Eddie Ladd, yn arwain ensemble o 100 o fenywod gan berfformio penillion o gerdd Gymraeg hynafol am ryfel, sef y Gododdin. Gwahoddir menywod lleol i ymuno â Cyd Adrodd, grŵp cyd-adrodd i fenywod, a dysgu penillion o’r gerdd hynafol mewn cyfres o sesiynau galw heibio.
Mae lleoedd ar gael i ymuno â’r grŵp, cysylltwch â community@nowthehero.wales
Mae hefyd gyfleoedd gwych i unrhyw un gyfranogi drwy fod yn rhan o’r parti priodas aflafar ynghyd ag aelodau Theatr Fach Abertawe neu, i’r rhai sydd â dawn tyfu pethau, drwy helpu GRAFT, y prosiect tyfu sydd wedi’i leoli yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Bydd y prosiect yn trawsnewid y ddinas. Mae’r 5 perfformiad gyda’r nos rhwng 25 a 29 Medi yn cyd-fynd â llu o weithgareddau mewn ‘penwythnos celf’ cyffrous – Nawr am Fwy – a fydd yn dechrau ddydd Sadwrn 21 Medi ac yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau arbennig, arddangosfeydd, sgyrsiau a gweithgareddau i deuluoedd am ddim yn lleoliadau diwylliannol bach a mawr Abertawe.
I gael mwy o wybodaeth am Nawr yr Arwr a Nawr am Fwy, ewch i www.nawryrarwr.cymru
Mae Nawr yr Arwr/Now The Hero wedi’i gomisiynu gan 14-18 NOW, sef rhaglen gelfyddydol y Deyrnas Unedig i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafwyd cefnogaeth y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Canolfan Gelfyddydol Taliesin a Phrifysgol Abertawe sy’n cynhyrchu’r sioe mewn partneriaeth â Chyngor Dinas a Sir Abertawe a chyda chefnogaeth hael Gŵyl Ryngwladol Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.