Ein harddangosfeydd yw conglfaen Gŵyl Bwytho Abertawe lle mae doniau’n pwythwyr lleol ar gael i bawb eu gweld. Roedd y grwpiau lleol, megis Swansea Quilters, Baywood Quilters, Grŵp Tecstilau Itchyfingers, Stitches Coven, Wednesday Stitchers, Grŵp Brodwaith a Thecstilau Abertawe (Urdd Brodwyr Abertawe gynt) i gyd yn rhan o ddathliadau 2016 ac maent unwaith eto yn dod â’u celf tecstilau ar thema’r môr i arddangosfeydd yn Abertawe.
Ar gyfer 2018, rydym wedi gwahodd mwy o grwpiau ac artistiaid i ymuno â ni ac rydym yn croesawu Natasha Morgan, sef crëwr doliau arbennig a wnaed â llaw, Haf Weighton, artist pwytho dawnus iawn sydd wedi arddangos ei gwaith yn Oriel Saatchi yn Llundain a Ruth Norbury, artist sy’n cynhyrchu gwaith pwytho trawiadol â llaw, i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain. Rydym hefyd yn dod â thri grŵp dawnus i Abertawe, megis Cutting Edge Textiles, sef grŵp tecstilau amryddawn o Fro Morgannwg, Naturally Sew, grŵp cymharol newydd o Gasnewydd, a Cwilt Cymru, sef grŵp cwiltio celfyddyd gain llwyddiannus a hirsefydlog y mae gan ei holl aelodau gysylltiadau â Chymru. Rydym yn hynod falch y bydd rhai myfyrwyr o Goleg Gŵyr yn arddangos eu gwaith yn yr oriel yn Theatr Volcano ar y Stryd Fawr yn Abertawe hefyd.
Fel uchafbwynt y dathliadau a fydd yn para pythefnos, rydym yn cynnal ein Harddangosfa Cwiltio gyntaf erioed ar 18 ac 19 Awst gan ddod â thros 170 o gwiltiau o bob rhan o dde Cymru ynghyd. Rydym yn falch iawn bod grŵp graffiti gwau yn mynd i addurno’r ardal o gwmpas Pier y Mwmbwls a bydd hwn yn gasgliad lliwgar, difyr a thrawiadol o greadigaethau morol. Mae ein prosiect ysgolion wedi datblygu i’r fath raddau fel y bydd gennym gadeiriau cynfas ar thema’r môr y tu allan i Bier y Mwmbwls ac yng ngardd Amgueddfa Abertawe a bydd y gorchuddion bolardiau addurniadol, a oedd mor boblogaidd yn 2016, yn ymddangos unwaith eto y tu allan i’r Amgueddfa.
Yn Amgueddfa Abertawe, bydd Cwilt Cymru’n arddangos eu gwaith yn y Brif Oriel a bydd ContexArt yn dychwelyd i’r Oriel Hir ar ôl eu harddangosfa lwyddiannus yn 2016. Efallai, o fan hyn, gallwch symud ymlaen i un o’n lleoliadau newydd megis Canolfan yr Amgylchedd ar Stryd y Pier lle bydd yr artistiaid Ruth Norbury a Haf Weighton yn cynnal arddangosfa o ddulliau a dehongliadau cyferbyniol ar ein thema, sef y Môr.
Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, bydd Swansea Quilters a Baywood Quilters yn dychwelyd ar ôl eu harddangosfa lwyddiannus iawn yn 2016. Mae gan y grŵp o fenywod dawnus hwn dros 60 o aelodau ac mae’n grŵp ffyniannus o gwiltwyr yn Abertawe. O ardal Castell-nedd, mae gennym grŵp o gwiltwyr, sef Wednesday Stitchers, yn arddangos eu gwaith yn y Ganolfan Ddinesig. Gwnaethant gynnal arddangosfa boblogaidd iawn ym Mar a Bistro Tapestri yn 2016, sef y lleoliad lle bydd y grŵp tecstilau, Cutting Edge, yn arddangos eu gwaith.
Byddwch yn barod am rywbeth hollol wahanol yng nghyntedd Gwesty’r Dragon. Bydd yr artist doliau, Natasha Morgan, yn arddangos ei dol unigryw, ‘Môr Tywyll’, ar bwys arddangosfa grŵp Naturally Sew a fydd yn dod o Gasnewydd i ymuno â ni! Yn lleoliad arddangosfa Volcano ar y Stryd Fawr, rydym yn falch o gynnal arddangosfa ar ran myfyrwyr Coleg Gŵyr – byddwch yn barod i gael eich herio a’ch swyno.
Mae gennym lawer o bethau i’w gweld yn Theatr y Grand Abertawe, gydag arddangosfeydd gan ddau grŵp tecstilau adnabyddus a llwyddiannus iawn, sef Tecstilau Itchyfingers a’r Stitches Coven. Fel arfer, bydd yr arddangosfeydd yn arddangos celf decstilau ryfeddol gan lawer o bobl ddawnus. Cynhelir y mwyafrif o’n harddangosfeydd yn Abertawe, ond bydd gwaith Grŵp Brodwaith a Thecstilau Abertawe (Urdd Brodwyr Abertawe gynt) yn cael ei arddangos yng nghaffi a siop anrhegion The Beach Hut. Yn yr awyr agored, gallwch weld ein graffiti gwau gwych a’n cadeiriau cynfas wedi’u haddurno sy’n siŵr o lonni a difyrru!
Cynhelir ein Harddangosfa Cwiltio yn y Ganolfan Hamdden, a bydd dros 170 o gwiltiau yn cael eu harddangos, sy’n nifer enfawr ar gyfer ein harddangosfa gyntaf. Cynhelir yr arddangosfa hon ar 18 ac 19 Awst yn unig, gellir gweld y lleill dros y pythefnos o 10 i 24 Awst ond gwiriwch y dyddiadau a’r oriau agor ar ein gwefan, yn ein llyfryn neu yn y lleoliad. Nid ydym eisiau i unrhyw un gael ei siomi drwy golli’n harddangosfeydd bendigedig.
Bydd amrywiaeth gwych o gelf decstilau ragorol yn cael ei harddangos yn Abertawe, gyda rhywbeth i bawb. Rydym yn gobeithio y byddwch i gyd yn mwynhau’r cyfle gwych hwn i weld doniau artistiaid a chrewyr lleol ac efallai y byddwch yn cael eich ysbrydoli i ddechrau pwytho eich hun!
Am fwy o wybodaeth am Ŵyl Bwytho Abertawe 2018, gallwch ymweld â’r wefan neu ewch i dudalen Facebook yr ŵyl am y newyddion diweddaraf.