Bydd Pete Tong a Heritage Orchestra, dan arweiniad Jules Buckley, yn cyflwyno sioe newydd sbon Ibiza Classics ym mharc prydferth Singleton ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf. Bydd tocynnau ar werth o 10am ddydd Gwener 8 Mawrth, a gallwch eu prynu ar Ticketmaster.co.uk, drwy ffonio 0844 844 0444 neu’n lleol yn Derricks Records.
Mae sioe fwyaf poblogaidd yr haf yn dychwelyd i Gymru, yn dilyn sioe’r llynedd yng Nghastell Caerdydd lle gwerthwyd pob tocyn o fewn yr 8 awr gyntaf, gyda sioe newydd sbon ar gyfer 2019 gyda hyd yn oed mwy o ganeuon dawns enwog.
Mae’r sioe hon yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sy’n mwynhau noson egnïol o ddawnsio, ac i bawb sy’n dwlu ar Ibiza. Bydd yn cynnwys cyfuniad hudolus o DJ mwyaf dylanwadol y DU a cherddorfa â 65 o offerynnau, sioe syfrdanol â laserau a’r anthemau parti mwyaf poblogaidd.
Daeth y cysyniad i’r amlwg yn sgîl llawer o waith caled a churadu gofalus yn ystod sioe hynod llwyddiannus Proms y BBC yn Neuadd Frenhinol Albert tair blynedd yn ôl. Perfformiodd Pete â’r Heritage Orchestra, dan arweiniad Jules Buckley, mewn arenâu ar draws y byd, gan gynnwys yr Hollywod Bowl a dau berfformiad yn yr O2 lle gwerthwyd pob tocyn. Mae wedi rhyddhau dau albwm, sef Classic House, a werthodd dros 200,000 o gopïau ac a gyrhaeddodd brig y siartiau yn y DU, a Pete Tong Ibiza Classics, sydd wedi gwerthu dros 120,000 o gopïau hyd yn hyn.
Unwaith eto, mae’r sioe’n cael ei hyrwyddo gan Orchard Live, enillwyr gwobr hyrwyddwr rhanbarthol presennol y flwyddyn LIVE UK, sydd hefyd wedi ennill y wobr tair gwaith yn y gorffennol. Meddai’r cyfarwyddwr Pablo Janczur, “Roeddem yn hoff iawn o’r perfformiad anhygoel hwn y llynedd yng Nghastell Caerdydd, ac rydym yn hynod gyffrous i gyflwyno’r sioe newydd sbon yn Abertawe’r haf hwn gan mai’n siŵr o fod yn ddigwyddiad bythgofiadwy arall yng Nghymru a fydd yn ennyn atgofion o Escape into the Park a oedd yn ddigwyddiad nodedig yn Abertawe.”
Bydd sioe Jess Glynne, sydd eisoes wedi cael ei chyhoeddi, yn cael ei pherfformio ar y noson olynol, sef dydd Sul 28 Gorffennaf. Mae Pete Tong wedi bod yn ffigwr dylanwadol iawn ym myd cerddoriaeth dros yr ugain mlynedd diwethaf, ac yn fwyaf amlwg fel llais rhaglenni dawns poblogaidd Radio 1. Mae ei sioe Essential Mix yn parhau i fod ar flaen y gad o ran sioeau cymysgu cerddoriaeth, a’i Essential Selection yw’r lle i chwarae caneuon newydd am y tro cyntaf. Mae All Gone Pete Tong yn frand ac yn ffilm enwog, ac mae hefyd yn ddywediad sy’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn slang odli.