Dewch i weld yr arddangosiadau gan ben-cogyddion adnabyddus yn nigwyddiad Croeso Abertawe!
Bydd cogydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Masterchef, enillydd The Great British Bake Off, a chogyddion blaenllaw o westai lleol a phob un yn arddangos yr hyn maen nhw’n ei wneud orau dros ddeuddydd fel rhan o ddigwyddiad Croeso yn Sgwâr y Castell ar 1 a 2 Mawrth.
Bydd Sophie Faldo, enillydd The Great British Bake Off yn 2017 yn cymryd rhan ddydd Gwener. Mae hi wedi ymddangos ar raglen Lorraine, sioeau radio amrywiol ac mae ei ryseitiau wedi’u cyhoeddi yn The Telegraph, The Sunday Times, The Irish Independent, The Mail on Sunday, cylchgrawn OK, The Radio Times, cylchgrawn Delicious a nifer o rai eraill. Mae’n arddangos yn gyson hefyd mewn sioeau bwyd rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys The Ideal Home Show yn Olympia. Ar hyn o bryd mae Sophie’n ymddangos fel cyflwynydd yn y sioe bwyd a diod, Travel With A Goat. Bydd yn ymddangos ar y dydd Gwener gyda phen-cogydd gwesty’r Village a Hywel Griffith o fwyty’r Beach House.
Ddydd Sadwrn 1 Mawrth, bydd arddangosiadau coginio gan Jon Jenkins, un o gystadleuwyr The Great British Bake Off yn 2018 a enillodd galonnau miloedd o wylwyr GBBO yn ystod y gyfres yn gynharach eleni. Daeth yn adnabyddus am fod yn Gymro balch a oedd yn pobi amrywiaeth o ddanteithion Cymreig y mwyafrif o wythnosau, a hefyd yn dangos ei gariad at grysau lliwgar Hawäiaidd, trwy wisgo crys gwahanol bob wythnos, gan gynnwys crys Hawäiaidd ar thema’r Nadolig, gyda Siôn Corn mewn sgert wair.
Ddydd Sadwrn, croesewir Imran Nathoo a gyrhaeddodd rownd derfynol Masterchef yn 2017 a Katie Davies o raglen Mary Berry’s Britain Best Home Cook 2018 yn ogystal ag Anthony Evans o raglen Stwffio ar S4C. Bydd Siân Day, ysgrifennwr bwyd ar gyfer cylchgrawn Swansea Life, a gyrhaeddodd rownd derfynol My Kitchen Rules ar Channel 4, hefyd yn y digwyddiad yn paratoi bwyd cartref blasus gan ddefnyddio’r cynhwysion Cymreig gorau.
Bydd yr holl arddangosiadau coginio’n dechrau am 11am ac yn para tan 4pm, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio, yn cael rhywfaint o ysbrydoliaeth ac yn mwynhau’r arddangosiadau coginio am ddim sydd ar gael fel rhan o ŵyl Croeso 2019.
Amserlen
Dydd Gwener 1 Mawrth
11am – 1pm: Coleg Gŵyr/Vanilla Pod
1pm – 2pm: Sophie Faldo, Enillydd The Great British Bake Off 2017
2pm – 3pm: Steve Farrington ac Adam Horton, Pen-cogydd Gwesty The Village
3pm – 4pm: Hywel Griffith, Pen-cogydd Beach House
Dydd Sadwrn 2 Mawrth
11am – 12pm: Siân Day, The Vintage Cake Company a chystadleuydd yn My Kitchen Rules
12pm – 1pm: Jon Jenkins, Cystadleuydd yn The Great British Bake Off 2018
1pm – 2pm: Imran Nathoo, Rownd derfynol Masterchef 2017
2pm – 3pm: Katie Davies, o raglen Britain’s Best Home Cook 2018 gyda Mary Berry
3pm – 4pm: Anthony Evans, Stwffio a S4C
Bydd stondinau ar hyd Stryd Rhydychen yn arddangos cynnyrch cartref blasus gan fasnachwyr.