Proms yn y Parc y BBC yn dychweld yn Abertawe ym mis Medi
Mae Proms yn y Parc y BBC yn dychwelyd i Barc Singleton, Abertawe eleni, nos Sadwrn 14 Medi fel rhan o’r dathlu sydd ynghlwm wrth Noson Olaf y Proms 2019 ar draws y DU. Mae’r noson wych o gerddoriaeth yn dychwelyd i Abertawe am y trydydd tro ar ddeg ac yn addo i fod yn noson arbennig o ganu a dathlu.
Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn rhan flaenllaw o’r noson wrth iddynt ddychwelyd i Gymru wedi pum perfformiad yn y BBC Proms yn y Royal Albert Hall. Caiff enwau mwy o gyfranwyr eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.
Dywed Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies: “Mae Proms yn y Parc y BBC yn ddathliad arbennig o bŵer unigryw cerddoriaeth a chan ac rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Abertawe eleni.”
Dywed Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet dros Arloesi, Adfywio a Thwristiaeth: “Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio mewn partneriaeth agos gyda BBC Cymru i ddod â Proms yn y Parc yn ôl i Abertawe ym mis Medi.
“Dyma fydd y 13eg tro i’r cyngerdd arbennig hwn gael ei gynnal yn y ddinas, sy’n siarad cyfrolau am dreftadaeth ddiwylliannol Abertawe a’r gallu i wireddu digwyddiadau mawr fel hyn.
“Mae Abertawe yn dathlu 50 mlynedd fel dinas eleni. Gyda’r fflagiau yn chwifio, cerddoriaeth arbennig a’r arddangosfa tan gwyllt i gloi’r noson, fe fydd Proms yn y Parc y BBC yn rhoi cyfle gwych i’r miloedd fydd yn mynychu i ddathlu.”
Y mezzo-soprano Katherine Jenkins fu’n diddanu’r dorf yn y digwyddiad yn Stadiwm ZipWorld, Bae Colwyn yn 2018 ynghyd â seren y West End, Lee Mead ag ystod o dalent cerddorol gan gynnwys Only Kids Aloud a Cherddor Ifanc y Flwyddyn 2018, y pianydd Lauren Zhang.
Mae gwahoddiad i’r rhai sy’n mynychu’r cyngerdd i ddod â phicnic a chadeiriau glan-môr efo nhw i ddathlu noson olaf y Proms ym Mharc Singleton. Fe ddaw’r noson i ben gydag arddangosfa dan gwyllt ynghyd â medli o ganeuon adnabyddus sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad arbennig hwn.
Mae’r Proms eleni yn nodi 150 o flynyddoedd ers geni ei sylfaenydd-arweinydd Sir Henry Wood, ac mae’r gyfres o gyngherddau yn parhau i gyflawni ei genhadaeth i ddod â’r ‘gorau o fyd cerddoriaeth glasurol i’r gynulleidfa fwya’ eang’.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad gan gynnwys newyddion am artistiaid a manylion prynu tocynnau, ewch i dudalen Proms yn y Parc.