Mae Tŷ Hafan yn cynnal ei Ras Enfys olaf erioed ddydd Sadwrn 28 Ebrill ac rydym yn ei chroesawu’n ôl i draeth Bae Abertawe! Yn ystod y digwyddiad gallwch greu atgofion amhrisiadwy gyda’ch teulu a’ch ffrindiau, yn gwmws fel y rhai sy’n cael eu creu yn Nhŷ Hafan ar gyfer ein teuluoedd!
Ras liwgar ar lwybr 5km y gallwch ei redeg (neu ei gerdded) yw’r Ras Enfys, ac ar hyd y ffordd caiff y rheiny sy’n cymryd rhan eu gorchuddio â phaent powdr lliwiau gwahanol. Mae’n ddigwyddiad llawn sbri i’r teulu cyfan.
Eleni rydym yn gofyn i’n cyfranogwyr #RhedegDrosEinNyrsys. Mae nyrsys Tŷ Hafan yn flaenllaw o ran ein gofal. Ni allwn agor ein drysau hebddynt. Bob blwyddyn mae mwy o deuluoedd yn dod atom am ofal a chefnogaeth nag erioed o’r blaen. Mae angen i ni sicrhau y gallwn barhau i ariannu’n nyrsys er mwyn diwallu anghenion cynyddol ein hosbis.
Meddai Jodie Harris, Rheolwr Digwyddiadau Tŷ Hafan, “mae ein nyrsys yn rhoi meddyginiaeth ac atgofion arbennig i blant Cymru. Trwy gymryd rhan yn ein Ras Enfys, rydych yn helpu’n teuluoedd i wneud y defnydd mwyaf o’r amser gwerthfawr sydd ar ôl ganddynt fel teulu. Mae eich nawdd gwerthfawr yn ein galluogi i barhau i ariannu ein nyrsys sy’n cynnig gofal a chefnogaeth arbenigol, 24 awr y dydd, 365 o ddiwrnodau’r flwyddyn”.
Am bob km rydych yn ei redeg, gallwch ddweud eich bod yn cefnogi ein nyrsys, a byddwn ni’n eich cefnogi bob cam o’r ffordd.
Felly beth am gofrestru heddiw gyda’ch teulu, eich ffrindiau neu’ch cydweithwyr!
Pris cymryd rhan yn y ras yw £13 yr un neu £10 yr un i grwpiau o 5 neu fwy, gydag isafswm arian nawdd o £50 y person.
Cofrestrwch heddiw yn www.rainbowrunwales.co.uk neu e-bostiwch events@tyhafan.org