Efallai ei bod hi’n wyliau’r haf, ond yn anffodus ni fyddai’n haf Prydeinig heb o leiaf ychydig o ddiwrnodau glawiog. Fodd bynnag, nid ydym yn becso beth mae’r dyn tywydd yn ei ddweud, os yw dyn y tywydd yn dweud ei bod hi’n glawio – gallwch barhau i gael gwyliau gwych. Mae Abertawe’n llawn gweithgareddau dan do i ddiddanu chi a’ch teulu dros yr haf hwn. Dyma ein prif ddewisiadau i chi roi cynnig arnynt…
Dwlu ar yrru
Os ydych chi neu aelod o’ch teulu’n dilyn ôl troed Lewis Hamilton, Skidz karting (unig drac dan do Abertawe) yw’r union le i chi. Gyda gwibgerti a thraciau’n addas ar gyfer pob oed a gallu, mae Skidz karting yn berffaith ar gyfer eich cyfer chi. Gall gwylwyr wylio’r holl gyffro o ardal wylio fawr ar y llawr cyntaf.
Mwynhau garddio?
Os yw hi’n wlyb y tu allan, gallwch fwynhau fel Alan Titchmarsh gyda thaith i Plantasia. Yn llawn planhigion, cacti miniog, bambŵ enfawr a llawer mwy, mae Plantasia’n baradwys trofannol diddorol. I’r rhai sy’n dwlu ar anifeiliaid, mae mwncïod tamarin pennau cotwm, madfallod, piranaod a detholiad o bryfetach.
Dewch i wlychu…Dan Do
Yr LC yw prif Barc Dŵr a chyfadeilad hamdden Cymru. Gyda phopeth dan yr unto, bydd llu o bethau i wneud gan gynnwys wal ddringo 30 troedfedd, ardal chwarae 4 llawr ryngweithiol, campfa fwyaf Cymru, sba foethus ac efelychydd syrffio dan do cyntaf Cymru. I’r rhai mwy anturus, mae’r LC hefyd yn gartref i’r Masterblaster enwog, sleid yn null rheilffordd droellog sy’n taflu reidwyr i fyny ar ffrwd o ddŵr jet. Cadwch lygad am y llosgfynydd actif!
Cofiwch, mae Abertawe hefyd yn gartref i Bwll Cenedlaethol Cymru – gyda phopeth o ‘Sblasio a Chwarae’ i blant a nofio mewn lonau i ddosbarthiadau a gwersi preifat.
Darganfod Dylan
Nid yw taith i Abertawe’n gyflawn heb ymweld ag un o leoliadau Dylan Thomas. Dewch i weld yr arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ yng Nghanolfan Dylan Thomas gyda lleisiau enwog yn darllen rhai o weithiau enwocaf Dylan. Rhywbeth arall sy’n werth ymweld ag ef yw man geni a chartref teulu Dylan – sydd wedi’i adnewyddu i’w hen-ogoniant o’r 1940au.
Hefyd mae’n werth ymweld â man geni a chartref teulu Dylan. Mae wedi’i adnewyddu i’w hen-ogoniant o’r 1940au, rydym yn siŵr y bydd rhywbeth rydych chi’n ei gyffwrdd neu’n ei weld yn dod ag atgofion i chi o’r oes a fu.
Anelu’n uchel?
Rydym yn ffodus i gael dau gyfleuster dringo dan do:
- Mae Dynamic Rock yn ganolfan dringo creigiau dan do, lle gallwch ddringo a chael cyfarwyddyd ar gyfer pob oed a gallu, o sesiynau rhagflas i ddechreuwyr, i’r cyrsiau mwy datblygedig.
- Mae gan yr LC wal ddringo 30 troedfedd gyda system belaiau awtomatig, sy’n golygu y gallwch ddringo heb gymorth (peidiwch â phoeni, mae’r gweithwyr proffesiynol yno wrth law!).
Teithio drwy amser
Dewch i gamu’n ôl mewn amser i ddysgu am hanes diddorol Abertawe yn un o’n hamgueddfeydd gwych:
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – Dewch i archwilio stori ddynol y diwydiant Cymreig ac arloesedd dros y 300 mlynedd diwethaf.
- Amgueddfa Bae Abertawe’r 1940au – Dewch i ymweld â’n stryd dan do wych o’r 1940au i brofi golygfeydd a seiniau Prydain yn ystod y rhyfel.
- Amgueddfa Abertawe – Amgueddfa hynaf Cymru, sy’n rhoi cipolwg i chi ar fywyd yn Abertawe yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
- Canolfan Treftadaeth Gŵyr – mae atyniad i ymwelwyr ac yn amgueddfa bywyd gwledig sy’n seiliedig ar felin ddŵr o’r 12fed ganrif sy’n gweithio ar Benrhyn hyfryd Gŵyr.
Dwlu ar gelf
O baentiadau a cherfluniau cyfoes i ymweld ag arddangosfeydd ac artistiaid lleol, anghofiwch am y tywydd a chael eich ysbrydoli gan un o’n horielau gwych:
- Glynn Vivian– edrychwch am gyfres o weithdai gwych ar ein tudalen ‘Digwyddiadau’.
- Gower Gallery – oriel hyfryd wedi’i hysbrydoli gan arfordir prydferth Gŵyr ym mhentref y Mwmbwls gyda siopau bwtîc a chaffis o’i chwmpas.
- Oriel Attic – dyma oriel breifat hynaf Cymru a agorwyd ym 1962 i amlygu gwaith artistiaid cyfoes sy’n gweithio yng Nghymru.
- Oriel Mission -dewch i ymweld ag un o’r mannau gorau a addaswyd yng Nghymru ar gyfer celf gyfoes.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English