I ddathlu 20 mlynedd ers codi Stadiwm Morfa Abertawe a rhyddhau Performance & Cocktails
Dydd Sadwrn, 13 Gorffennaf 2019, Parc Singleton
Mae un o fandiau byw gorau Prydain, y Stereophonics, wedi cyhoeddi perfformiad arbennig ym Mharc Singleton, Abertawe ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2019.
Bydd rocwyr y stadiwm yn perfformio yn eu cynefin yn ne Cymru i ddathlu 20 mlynedd ers y sioe yn Stadiwm Morfa o flaen cynulleidfa o 50,000, a fu’n garreg filltir yn eu gyrfa ac ers rhyddhau ‘Performance and Cocktails’. Roedd yr albwm hwn sydd bellach yn eiconig, a’r ail albwm stiwdio i’r band ei ryddhau, wedi sicrhau y cyrhaeddodd tri o senglau’r Stereophonics bump uchaf siartiau Prydain, gyda The Bartender and the Thief yn cyrraedd rhif 3, a Just Looking a Pick a Part That’s New yn cyrraedd rhif 4.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r Stereophonics wedi perfformio mewn rhai o’r lleoliadau mwyaf gerbron selogion o bob cwr o’r byd, gan werthu dros 10 miliwn o albymau yn y cyfnod hwnnw. Yn fwy diweddar yn 2018, perfformiodd y band o flaen tyrfaoedd enfawr ar draws y byd, gan gynnwys taith arena 15 dyddiad enfawr, cyngherddau croeso’n ôl yn Wrecsam a Chaerdydd ac fel prif act yng ngwyliau cerdd Kendal Calling, Y Not a Victorious.
Wrth siarad am y cyhoeddiad diweddaraf, meddai Kelly Jones,
“Rhoddodd Performance and Cocktails ni ar fap y byd ac ar y teledu a’r radio hefyd, a oedd yn golygu yr aeth llawer o bobl yn ôl i ddarganfod Word Gets Around, gan olygu yr enillodd ein halbwm cyntaf ddisg Blatinwm yn ail! Daeth Performance and Cocktails yn fyw yn Stadiwm Morfa, ac roedd yn ddiwrnod cwbl unigryw na fydd byth modd ei guro. Roedd hi’n berffaith. Dwi ddim yn ddyn sy’n hoffi mynd tuag yn ôl – parti pen-blwydd yn unig yw’r digwyddiad hwn, felly dewch draw i’n helpu i ddiffodd y canhwyllau.”
Aelodau’r Stereophonics yw Kelly Jones (llais/gitâr), Richard Jones (gitâr fas), Adam Zindani (gitâr) a Jamie Morrison (drymiau).