Mae Abertawe’n ddinas sy’n dwlu ar chwaraeon. P’un ai’n bêl-droed yr Uwch-gynghrair, yn rygbi Ewropeaidd, yn rasys arobryn neu’n ymgynnull o flaen y Sgrîn Fawr i gefnogi timau cenedlaethol. Mae’n ddinas chwaraeon sy’n ffynnu a lle bynnag rydych chi’n mynd, mae rhywbeth yn cael ei daflu, ei ddal neu ei gicio!
Mae rhai digwyddiadau chwaraeon penigamp y gallwch eu mwynhau’r haf hwn yn Abertawe, o bencampwriaethau rhyngwladol i ffefrynnau poblogaidd calendr chwaraeon Abertawe sy’n dychwelyd. Felly beth ydych chi’n aros amdano? Joio Bae Abertawe’r haf hwn: Y lle ar gyfer chwaraeon
Ewro 2016 ar Sgrîn Fawr Sgwâr y Castell
Gall cefnogwyr pêl-droed wylio Cymru yn cystadlu yn Ewro 2016 ar Sgrîn Fawr Sgwâr y Castell. Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd pob gêm Cymru yn cael ei dangos yn fyw o Ffrainc ar y sgrîn yng nghanol y ddinas fel rhan o haf gwych llawn chwaraeon ar draws y ddinas.
TREIATHLON Y MWMBWLS
The award winning Mumbles Triathlon will take place on Saturday 18th June. The race will be held over two distances to cater for athletes of all abilities.
Un o’r rasys hanner marathon sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae ras Hanner Marathon JCP yn ôl am ei thrydedd flwyddyn. Gyda’r ras yn tyfu i 8,000 o redwyr eleni, mae’r llwybr yn eich arwain drwy ganol y ddinas, ar hyd yr arfordir trawiadol a heibio i brif dirnodau Abertawe.
FISU, ABERTAWE 2016
Mae gan Brifysgol Abertawe’r fraint o gynnal Pencampwriaeth Rygbi 7 Bob Ochr Prifysgolion y Byd FISU 2016, mewn partneriaeth â Chwaraeon Colegau a Phrifysgolion Prydain ac URC i gyflwyno arddangosfa drawiadol o chwaraeon gan fyfyrwyr rhyngwladol.
RAS AM OES PRETTY MUDDY ABERTAWE
Dangoswch pwy yw’r meistr i ganser ym mis Gorffennaf wrth i 5k Pretty Muddy Ras am Oes ddod i Abertawe. Bydd cyffro, digon o gwympo a llawer iawn o fwd ar y cwrs rhwystrau 5k!
5K RAS AM OES
Bydd yn barod, ganser – rydyn ni’n dod ar dy ôl di. Dangoswch eich cefnogaeth i Ymchwil Canser y DU, gwisgwch eich dillad pinc gorau a rhedwch ar y strydoedd ar gyfer 5k Ras am Oes.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English