Tîm Raven i ymddangos yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru Bydd peilotiaid lleol, anturus yn esgyn i’r awyr uwchben Bae Abertawe i ddifyrru miloedd o bobl yr haf hwn.
Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau y bydd Tîm Raven yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a gynhelir ar benwythnos dydd Sadwrn 2 Gorffennaf a dydd Sul 3 Gorffennaf.
Tîm arddangos erobateg patrymog yw Tîm Raven a gafodd ei ffurfio ym mis Mai 2014 ar ôl i Dîm Osprey a Thîm Viper chwalu.
Mae’r cadarnhad y bydd y tîm yn ymddangos yn sioe awyr am ddim eleni yn dilyn newyddion y bydd y Red Arrows ac Eurofighter Typhoon yn cymryd rhan hefyd.
Caiff mwy o awyrennau ac adloniant eu cadarnhau dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod wrth i Gyngor Abertawe geisio gwneud y sioe awyr yn ddigwyddiad blynyddol.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English