Am y 19eg flwyddyn yn olynol, bydd Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth, a’r haf hwn daw’r clasuron ym myd llenyddiaeth yn fyw drwy ddyfeisgarwch Illyria.
Mae Illyria, sy’n cynnwys 5 actor eofn, wedi denu cynulleidfaoedd llawn yn eu 26 o dymhorau teithio awyr agored i gynnal eu henw da fel y goreuon.
26 Gorffennaf – The Comedy of Errors
Mae The Comedy of Errors yn adrodd stori dau bâr o efeilliaid unwy, Antipholus a Dromio, sy’n byw mewn dwy ddinas sy’n elynion noeth i’w gilydd sef Syracuse ac Ephesus. Cânt eu gwahanu gan drasiedi, yna dônt i gysylltiad â’i gilydd eto yn yr un ddinas sawl blwyddyn yn ddiweddarach.
Gyda digon o droeon annisgwyl a hap-gyfarfodydd, mae eu bywydau fel yr oeddent yn dechrau ymddatod – a hynny’n gyflym. Ychwanegwch butain llys ddig, abades sydd wedi newid ei gwedd ac ysgolfeistr a bwriwr cythreuliaid gwallgof, ac rydych yn barod am gorwynt o berfformiad!
Ymunwch â ni yn Ephesus, Mecsico, gyda’ch sombreros yn barod ar gyfer comedi golbio fwyaf doniol Shakespeare, wedi’i haddasu’n uniongyrchol o’i ffolio cyntaf.
Mae Pride and Prejudice yn stori ddoniol o gariad a bywyd, wedi’i lleoli yn Lloegr yn yr oes Sioraidd. Caiff bywydau 5 chwaer dosbarth canol eu troi wyneb i waered gan newydd-ddyfodiad i’r pentref a’i gyfaill anturlon a golygus, er braidd yn rhwysgfawr, Mr Darcy.
Daw helynt cyn bo hir, a chydag amryfal gynigion priodi, mae’r dehongliad modern hwn o glasur Jane Austen yn bell o de-partïon traddodiadol a chiniawau mawr. Ond a fydd y cariad sy’n blodeuo’n para, neu a fydd ei falchder ef yn ormod i’w rhagfarn hi?
Wedi’r cyfan, “it is a truth universally acknowledged, that a single man in possession of a good fortune, must be in want of a wife.”
Ymgollwch yn straeon y ddau glasur llenyddol hyn, wedi’u perfformio mewn ffordd gwbl newydd wrth i chi feddwl tybed sut bydd Illyria’n cyrraedd diwedd y cynhyrchiad heb orfod cael mwy o actorion!
Mae ysgolheigion ar draws môr Iwerydd yn cytuno mai eu harddull perfformio hwy yw’r un mwyaf Elisabethaidd a dilys sydd i’w weld.
POLISI AC AMODAU A THELERAU TYWYDD GWLYB
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am (a chlustiau’n effro i) gystadlaethau i ennill tocyn teulu i’r ddau berfformiad, ar-lein gyda Joio Bae Abertawe neu ar y radio gyda Heart Radio.