Am y 20eg flwyddyn yn olynol, bydd Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth haf hwn!
A Midsummer Night’s Dream – 19 Gorffennaf 2018
Mae comedi fwyaf poblogaidd, fythol Shakespeare o gariad a brad, hud a thryblith, yn dod yn fyw gan Theatr Quantum, ffefryn gan deuluoedd, mewn cynhyrchiad hynod ddoniol ac afieithus o glasur Shakespeare.
Wedi’i gosod ar y noson beryglus honno pan fydd tylwyth teg yn chwarae castiau ac nid oes unrhyw beth fel y mae’n ymddangos, caiff pedwar carwr ifanc, diarwybod eu dal yn y dryswch hudol ac, yn fuan, nid oes unrhyw un yn ddiogel yn y coed cyfareddol hynny y tu allan i Athen…
Dewch i gael eich cyfareddu hefyd gan y cynhyrchiad cyffrous, doniol a diddorol newydd hwn sy’n apelio at y teulu cyfan. Addas i bobl o bob grŵp oedran.
The Reluctant Dragon – 9 Awst 2018
“You’ve got to fight him some time or other you know, ’cos he’s St George and you’re the dragon…”
Mae pawb yn gwybod bod rhaid i San Siôr frwydro’n erbyn y ddraig, ond beth fydd yn digwydd pan nad yw’r ddraig am frwydro yn erbyn San Siôr?
Yn yr addasiad newydd hyfryd hwn gan Michael Whitmore, mae Quantum Theatre yn cyflwyno The Reluctant Dragon gan Kenneth Grahame; stori hudolus am ddewrder, cyfeillgarwch ac arwriaeth i’r teulu cyfan.
Tocynnau:
Ar y dydd – Oedolion £8, Concessions £7, PTL £5
Mewn cydweithrediad ag Panini’s