Am y 21eg flwyddyn yn olynol, bydd Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth haf hwn!
Gangsta Granny – 21 Awst
Mae mam-gu Ben yn lleidr tlysau rhyngwladol – ac mae angen help arni i gyflawni ei lladrad mwyaf hyd yn hyn, sef dwyn tlysau’r Goron!
Wuthering Heights – 29 Awst
Ymunwch â Heartbreak Productions am y cynhyrchiad awyr agored hwn o stori hunllefus Emily Brontë am ddau berson a chanddynt eneidiau mor wyllt a ffyrnig â rhostiroedd anial Swydd Efrog.