Caiff cynyrchiadau Theatr Awyr Agored eu cynnal unwaith eto ar safle trawiadol Castell Ystumllwynarth yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst, un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn, gyda 2 pherfformiad gwych!
Bydd yn amser llenwi’r basgedi picnic â danteithion blasus, pacio’ch blancedi ac edmygu’r machlud cyn bo hir, cyn gwylio rhai o’r cynyrchiadau Theatr Awyr Agored gorau yn y DU.
The Comedy of Errors – 26 Gorffennaf 2017
Pride and Prejudice – 2 Awst 2017
Sylwer: mae sioe Dotty the Dragon ar 3 Awst wedi’i chanslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl.
Mae tocynnau ar werth yn awr, ar gael drwy www.ticketsource.co.uk/event/183046
Gallwch brynu tocynnau hefyd yn bersonol yng Nghanolfan Dylan Thomas neu drwy ffonio Llinell Ddigwyddiadau Bae Abertawe ar 01792 637300 (rhaid talu ffi archebu)
Bydd y rhai sy’n dwlu ar lenyddiaeth wrth eu boddau eleni pan fydd Illyria yn cyflwyno Comedy of Errors William Shakespeare a Pride and Prejudice Jane Austen.
Does dim gwahaniaeth os ydych chi’n berson sy’n hen gyfarwydd â gweld cynyrchiadau Theatr Awyr Agored, neu’n rhywun sy’n chwilio am ychydig o awyr iach yn unig, mae’n siŵr y bydd Theatr Awyr Agored yng Nghastell Ystumllwynarth yn un o uchafbwyntiau’r haf i chi!
POLISI AC AMODAU A THELERAU TYWYDD GWLYB