Bydd ychwanegiadau newydd yn dod i Plantasia ac yn creu cyffro dros wyliau’r Pasg.
Dau gaiman sbectolog a macaw o’r enw Freddie yw rhai o’r cymeriadau lliwgar hyn, y byddai’n rhaid i chi deithio filoedd o filltiroedd i ffwrdd i weld y fath gasgliad o anifeiliaid yn y cnawd fel arall.
Yn ogystal â hynny, bydd y tîm yn Plantasia’n dechrau gweithgareddau gwyliau’r Pasg gyda Pharth Anifeiliaid: Achub Anifeiliaid Egsotig o 3 i 5 Ebrill, lle gallwch chi gwrdd ag anifeiliaid cyfeillgar sydd wedi cael eu hachub gan gynnwys crwbanod a oedd wedi’u smyglo, trychfilod a deithiodd dan gochl ac ymlusgiaid enfawr sydd wedi tyfu’n rhy fawr i fod yn gyfforddus mewn tŷ cyffredin.
Bydd y sioeau poblogaidd ‘Deinosoriaid yn y Jyngl‘ yn dychwelyd o 9 i 13 Ebrill ac yn cynnwys palu i chwilio am ddeinosoriaid, gemau, deinosor bach newydd a helfa am ddeinosoriaid yng nghoedwig law drofannol Plantasia.
Dywedodd Maria Bowen, Swyddog Prosiect Plantasia, “Mae Achub Anifeiliaid Egsotig yn ychwanegiad newydd at raglen ddigwyddiadau Plantasia. Mae’r sioeau hyn yn gyfleoedd gwych i bobl gael cwrdd â chreaduriaid na fyddent yn gallu eu gweld yn y cnawd fel arall ac, ar yr un pryd, maent yn dangos pa mor anaddas yw rhai anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.”
Ychwanegodd, “Mae’r Pasg bob amser yn gyfnod prysur yn Plantasia gyda llawer o greaduriaid i’w gweld gan gynnwys y crocodeilod caiman newydd sydd heb enwau ar hyn o bryd – gofynnwn am awgrymiadau ynglŷn â hyn yn ystod llwybr y Pasg – a’r macaw glas ac aur benywaidd, Freddie, a fydd yn ymddangos gyda’i chymar Rainbow, sef ein macaw asgellwerdd.
“Gwledda ar bysgod yw hoff weithgaredd y ddau grocodeil a gallant fyw hyd at 60 mlynedd yn eu cynefin naturiol yng Nghanolbarth a De America.”
Dylai unrhyw un sydd am ddod i ddigwyddiadau’r Pasg brynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer y pedair sioe ddyddiol. I gael mwy o fanylion, ewch i abertawe.gov.uk/plantasia