Mae ychwanegiadau newydd at y teulu’n golygu bod elfen ‘giwt’ Plantasia’n fwy nag erioed.
Mae pump o’r chwech yn union yr un fath o ran eu golwg, felly dim ond un o’r gwiwerod rhesog dwyreiniol sydd wedi cael enw. Ei henw yw Afa, ac mae hi’n wahanol i’r lleill gan fod ei marciau ychydig yn wahanol.
Mae newidiadau diweddar eraill yn Plantasia, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys wyth terapin sy’n symud o ardal gaeedig i bwll er mwyn eu gwneud yn fwy gweladwy i ymwelwyr.
Meddai Maria Bowen, Swyddog Addysg yn Plantasia, “Mae’r chwe gwiwer resog yn ymgartrefu’n dda yn eu cartref newydd.
“Mae gwiwerod rhesog yn hynod giwt – ond maent hefyd yn greaduriaid gweithgar a phrysur iawn, felly rydym yn gobeithio y byddant yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr o bob oed.
“Bydd ein chwe chreadur newydd yn ychwanegu at yr hwyl yn yr atyniad sy’n addysgu pobl am anifeiliaid a bywyd gwyllt o bedwar ban byd.”
Mae Abie Rockefeller wedi bod yn intern hwsmonaeth anifeiliaid yn Plantasia am y tri mis diwethaf.
Meddai Abie, “Des i i Plantasia i helpu i fwydo a glanhau’r anifeiliaid yn ogystal â gwneud dyletswyddau eraill, ond gan fod y gwiwerod rhesog wedi cyrraedd, mae gennyf gyfrifoldebau ychwanegol.
“Roeddwn yn gallu dylunio eu hardal fyw a bellach rwy’n treulio amser gyda nhw bob dydd. Maent yn ychwanegiad gwych at y casgliad o anifeiliaid oherwydd eu bod nhw mor ciwt, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n boblogaidd iawn gyda’r cyhoedd. Mae’r chwech gwiwer resog yn wych – maent yn hyfryd.”
Mae’r wiwer resog ddwyreiniol yn famal bach sy’n byw mewn tyllau. Mae ganddynt sawl swyddogaeth yn eu cynefinoedd yn y goedwig, gan gynnwys gwasgaru hadau a rhybuddio rhywogaethau eraill os ydynt yn canfod ysglyfaethwyr. Gallant ddringo coed yn dda iawn ac maent yn eithaf bywiog yn ystod y dydd, yn fforio am fwyd ac yn amddiffyn eu tiriogaeth.
Mae gwiwerod rhesog yn gigysyddion a all dyfu hyd at 30cm mewn uchder, ac maent fel arfer yn byw yng ngogledd Asia.
Mae anifeiliaid eraill yn Plantasia’n cynnwys peithon rhwydog o’r enw Cuddles, monitor dŵr Asiaidd o’r enw Haku, pysgod trofannol ac amrywiaeth o adar egsotig.
Ffoniwch 01792 474555 neu ewch i www.abertawe.gov.uk/plantasia am fwy o wybodaeth.