Mae gan Abertawe gyfle i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021 ac mae angen eich help arnom i wireddu hyn.
Beth yw Dinas Diwylliant y DU?
Teitl a ddyfernir i ddinas am un flwyddyn yw Dinas Diwylliant y DU. Yn ystod y flwyddyn honno, bydd y ddinas yn creu rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol ag atyniad lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a fydd yn gatalydd ar gyfer twf adfywio ac economaidd.
Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU sy’n gweinyddu ac yn beirniadu’r fenter. Dyfernir y teitl unwaith bob pedair blynedd a cheir cystadlu brwd amdano. Yr enillydd gwreiddiol oedd Derry-Londonderry yn 2013, gyda Hull yn derbyn y teitl eleni. Mae’r ddwy ddinas wedi nodi manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol o ganlyniad i ddal y teitl. Byddai ennill statws Dinas Diwylliant y DU yn arwain at hwb gwerth miliynau o bunnoedd i’r ddinas, a fyddai’n cyflawni rhyfeddodau i economi Abertawe.
Pam Abertawe?
Dyma amser Abertawe a chyfle unwaith mewn oes yw ef. Mae ein dinas yn newid yn gyflym, gydag adfywio trefol a thwf poblogaeth yn creu tirlun sy’n barod ar gyfer buddsoddiad, arloesedd, amrywiaeth a chysylltedd. Mae uchelgais a phenderfyniad Abertawe wedi sicrhau ein bod wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiadau i’r ddinas, gan gynnwys Bargen Ddinesig newydd ac yn amodol ar gymeradwyaeth y llywodraeth, forlyn llanw cyntaf y byd, y bydd y ddau ohonynt yn creu isadeiledd diwylliannol digidol a blaengar newydd ar gyfer Abertawe erbyn 2021.
Rydym bellach yn edrych ymlaen gyda hyder newydd, a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd y byddwn yn eu hwynebu yn yr oes hynod gyfnewidiol hon. Ni fu amser gwell i ennill erioed. Dinas greadigol yw Abertawe a chanddi dreftadaeth, diwylliant, straeon ac unigolion creadigol – byddai statws Dinas Diwylliant y DU yn rhoi’r llwyfan perffaith i dynnu sylw at ein doniau anhygoel ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Mae ei ANGEN arnom, rydym AM ei gael a GALLWN ei gyflawni.
Beth a gawn ni os byddwn yn ennill?
Mae manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol yn deillio o deitl Dinas Diwylliant y DU.
Er mwyn dangos hyn, daeth 9.7 miliwn o ymwelwyr ychwanegol i Lerpwl yn ystod ei blwyddyn fel Dinas Diwylliant Ewrop yn 2008 – cynnydd o 35%. Nododd Derry-Londonderry, y ddinas gyntaf i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2013, fod yr anrhydedd wedi ychwanegu £47 miliwn i’w choffrau. Amcangyfrifir y bydd Hull, enillydd diweddaraf Dinas Diwylliant y DU, yn mwynhau hwb economaidd gwerth o leiaf £60 miliwn, ar ôl cael hwb gwerth £1 biliwn o ran buddsoddiad ers i enillydd y teitl gael ei gyhoeddi yn 2013.
Wrth gwrs, bydd llawer o fanteision eraill yn deillio o ennill y teitl hwn sydd y tu hwnt i elw ariannol. Mae’r sylw rhyngwladol a chenedlaethol, ymdeimlad trigolion y ddinas o foddhad a balchder, a hyder buddsoddwyr y mae enillwyr Dinas Diwylliant y DU yn eu mwynhau’n amhrisiadwy.
Dyma ymagwedd Tîm Abertawe go iawn. Mae tîm y cais yn cynnwys:
- Cyngor Abertawe
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Awdurdod Iechyd Abertawe Bro Morgannwg
- Llywodraeth Cymru
- Grŵp Tai Coastal
- BID Abertawe
- Morlyn Llanw
- Amgueddfeydd Cymru
- Gweithwyr proffesiynol creadigol
- Busnesau
- Arweinwyr y celfyddydau a diwylliant
Maent i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y canlyniadau yng nghais Abertawe ar gyfer cynyddu ac amrywiaethu cyfranogiad, gwella iechyd a lles, a thyfu’r economi cyn gryfed ac mor berthnasol â phosib.
Pwy sy’n cystadlu yn ein herbyn?
Mae pedair dinas arall yn cystadlu:
- Cofentri
- Paisley
- Stoke-on-Trent
- Sunderland
Beth yw’r amserlen?
Medi – cyflwyno’r cais llawn a therfynol
Rhagfyr – cyhoeddir y ddinas fuddugol. Yna caiff y ddinas fuddugol dair blynedd i baratoi at ŵyl Dinas Diwylliant y DU yn 2021.
Mae’r post hwn ar gael yn Saesneg hefyd
Mae eich angen chi arnom, bobl Abertawe!
I roi’r cyfle gorau i Abertawe ennill Dinas Diwylliant 2021, mae angen i bawb yn y ddinas wych hon gefnogi’n cais. Mae llawer o ffyrdd y gallwch wneud hyn…