Cofrestrwch ar gyfer Ysgol yr Ellyllon Calan Gaeaf!
Yn galw ar ddarpar wrachod a dewiniaid, diafoliaid direidus y mae angen disgyblaeth arnynt a swynwyr hudol sydd am ymarfer eu hud a lledrith! Ewch yn ôl i’r dosbarth dros galan gaeaf gydag Ysgol yr Ellyllon Abertawe a dathliadau calan gaeaf yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 29 Hydref.
Efallai fod nos galan gaeaf yn ystod hanner tymor eleni, ond ni fydd cyfle i chi osgoi’ch dosbarth diod hud! Dewch i ymuno â’r helynt, y direidi a’r hud yn Neuaddau Calan Gaeaf Abertawe ar gyfer diwrnod llawn hwyl a braw, am ddim! YSGOL YR ELLYLLON sy’n RHEOLI dros hanner tymor!!
Ydych chi’n bwriadu graddio fel swynwr neu ddewin fel Harry Potter? Neu a’i chi fydd wrach waethaf y dosbarth fel Mildred Hubble? Gallwch hyd yn oed ymuno â’r athrawon megis Miss Cackle, Miss Trunchball, yr Athro Snape a Dumbledore, gyda phrifathro cythreulig Ysgol yr Ellyllon yn rheoli!
Dewch i gwrdd â’r criw calan gaeaf yn Ysgol yr Ellyllon Abertawe lle mae ‘Ysgol yr Ellyllon’ ysbrydion yn y ddinas yn addo bod y diwrnod ysgol gorau rydych erioed wedi ei gael!
Bydd y gloch frawychus yn canu’n uchel ac yn glir er mwyn cychwyn y diwrnod ysgol, cofrestrir pawb, a’r peth cyntaf ar yr amserlen yw croesawu’r myfyrwyr dychrynllyd a’r dewiniaid dwl gyda gwasanaeth ysgol. Bydd cân Ysgol yr Ellyllon yn cael ei dysgu a’i chanu drwy’r ddinas, felly mae’n well i chi ddechrau ymarfer eich SGRECHIAN! Bydd y gwersi’n cynnwys arddangosiad gwyddoniaeth gyda chrochan yn ffrwydro, brwydr coes ysgub, ac efallai bydd yn syniad da i ddod â chinio pecyn er mwyn osgoi’r cinio ysgol ar ffurf treial ‘bush tucker’, wedi’i baratoi gan Y Gogyddes Annifyr, menyw ginio’r ysgol!
Bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau drwy’r dydd a bydd digon i’w wneud!
Gall cyfranogwyr ddilyn holl reolau Ysgol yr Ellyllon er mwyn sicrhau bod pawb yn graddio gyda marciau llawn!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English