Date/Time:
Date(s) - 29/09/2018 - 18/11/2018
10:00 am - 5:00 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
Anna Barratt I Gemma Copp I Joan Jones
Ystafell 9
Mae’r gwaith ffilm newydd hwn gan yr artistiaid o Abertawe, Anna Barratt, Gemma Copp a Joan Jones, yn archwilio themâu planedol ac all-blanedol colled, gwacter, oferedd ac afleoliad.
Gan greu teimlad bod bywyd dynol ar fin dod i ben, maent yn ymlwybro drwy leoliadau naturiol annaearol o hardd. Mae eu gwisgoedd a’u hystumiau’n awgrymu ymdeimlad o adawiad a herfeiddiwch, gan roi noethni rhagargoelus i’r olygfa eidylaidd. Mewn cyfnod cynyddol gythryblus, yn wleidyddol, yn ecolegol ac yn seicolegol, mae’r gwaith yn ceisio mapio profiad bywyd sy’n cael ei fyw ar ymylon bodolaeth.
Categories