Date/Time:
Date(s) - 15/12/2017 - 14/01/2018
7:00 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Yn llawn holl gynhwysion traddodiadol pantomeim y mae cynulleidfaoedd Abertawe’n eu disgwyl, mae Aladdin yn cynnwys comedi ddoniol, golygfeydd trawiadol, gwisgoedd hyfryd a digon o fŵan a hisian! Dilynwch Aladdin, ei frawd Wishee Washee ac, wrth gwrs, ei fam Widow Twankey ar antur arbennig.
Disgwyliwch garpedi’n hedfan, genie sy’n gwireddu dymuniadau, dewin drwg a digon o chwerthin. Felly neidiwch ar eich carped hud a hedfan i hen Peking a mwynhewch bantomeim swynol Aladdin!
Gan gynnwys Tony Maudsley (Benidorm) fel Genie of the Ring, hen wraig ddiamod Abertawe, Kevin Johns fel Widow Twankey, Matt Edwards yn syth o Britain’s Got Talent eleni fel Wishee Washee gyda Dooby Duck & Friends, bydd pantomeim eleni’n cynnwys yr holl gynhwysion y mae’r gynulleidfa’n eu disgwyl bellach; digonedd o chwerthin, canu a dawnsio cyffrous, effeithiau arbennig anhygoel a digonedd o’r gynulleidfa’n cymryd rhan.
Tocynnau: £12.50 – £26.00 Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Categories No Categories