Date/Time:
Date(s) - 11/09/2017 - 16/09/2017
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
DATHLU 10 MLYNEDD ERS RHYDDHAU’R CDs A WERTHODD FILIYNAU O GOPÏAU
Wedi’i hysbrydoli gan albymau hynod boblogaidd 1 i 5 Dreamboats and Petticoats, a werthodd filiynau o gopiau, mae’r sioe gerdd a werthodd bob tocyn yn y West End, sef Dreamboats and Petticoats The Musical, yn cynnwys rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd y cyfnod roc a rôl. Roedd llwyddiant anhygoel y pum albwm cyntaf yng nghyfres Dreamboats and Petticoats yn cyflwyno neges glir. Gyda thros ddwy filiwn o gopïau wedi’u gwerthu a sawl wythnos ar frig y siartiau ar gyfer casgliad o ganeuon, roedd trigolion Prydain yn dweud eu bod eisiau gwrando ar ganeuon yr hen ddyddiau da, ac eisiau eu gweld hefyd! Ym 1961, mae teimladau dros ben llestri wrth i’r cerddorion ifanc Norman a Bobby gystadlu i ennill cystadleuaeth genedlaethol i gyfansoddi cân – ac, yn bwysicach fyth, sylw Sue, sy’n dipyn o bishyn! Ond pan fydd Bobby’n darganfod dawn Laura swil i ganu’r piano, mae serch ac enwogrwydd roc a rôl yn denu.
Tocynnau: £23.00 – £29.00 Mae rhai consesiynau ar gael ar gyfer perfformiadau dethol
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Categories No Categories