Date/Time:
Date(s) - 14/06/2018
8:00 pm
Location: Dylan Thomas Theatre
Bob blwyddyn ers 1968, wrth iddynt deithio’r byd, mae Tower of Power wedi bod yn cyflwyno’u cerddoriaeth unigryw i gynulleidfaoedd mewn sioeau lle gwerthwyd pob tocyn. Mae’n anodd yw categoreiddio sain Tower, ond meddai Emilio Castillo, arweinydd y band ac un o’r aelodau sefydlu, mai “Urban Soul Music” yw’r sain.
Mae gan yr adran rhythm steil heb ei hail. Mae sain y band a arweinir gan y cyrn a’i ymagwedd tuag at ysgrifennu, trefnu, cymysgu a pherfformio’n hollol unigryw. Cyfunwch hyn oll gyda chanwr arweiniol rhagorol ac mae gennych un o’r grwpiau o gerddorion mwyaf deinamig i droedio’r llwyfan erioed.
Dewch i ymuno yn y parti wrth i ni ddiolch i Tower of Power am ein diddanu gyda cherddoriaeth ffync bywiog am 50 mlynedd.
Band mawr ffync sy’n chwarae cerddoriaeth T.O.P. yw “Soul Vaccination”. Casgliad cryf o gerddorion jazz ac enaid o’r DU sy’n perfformio caneuon poblogaidd fel Funk the dumb stuff, Give me the proof, Souled out, Still a young man, Diggin on James Brown, What is hip? ac On the serious side. Felly, dewch i gyd-ganu!
Parti hanner can mlwyddiant na ddylech ei golli.
Tocynnau: £25
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories