Date/Time:
Date(s) - 13/03/2018 - 14/03/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Gyda Cheryl Fergison (Eastenders), Maureen Nolan (The Nolans), Rebecca Wheatley (Casualty) a Hilary O’Neil (Copy Cats ar ITV). 16+ oed
Mae Menopause: The Musical yn cychwyn ar daith arall ledled y DU. Mae’r sioe hynod ddoniol hon yn llawn jociau un llinell am chwysfeydd nos, pyliau poeth a cholli’r cof, ynghyd â thrac sain cyfarwydd ar unwaith o fersiynau llawn ensyniadau o glasuron pop o’r 60au, y 70au a’r 80au.
Comedi llawn canu a dawnsio mewn siop adrannol lle mae pedair menyw sydd, o bob golwg, heb unrhyw beth yn gyffredin, yn cwrdd ar hap ac yn gwneud hwyl ar ben eu bywydau truenus wrth iddynt ddioddef y “Newid Oes”. Cyn pen dim mae cwlwm cyfeillgarwch yn datblygu rhyngddynt wrth iddynt sylweddoli nad ‘The Silent Passage’ yw’r darfyddiad mislif mwyach a’i fod yn gam anochel ym mywyd pob menyw.
Bydd sioe hynod ddoniol a chalonogol Menopause: The Musical yn gwneud i chi chwerthin, a chanu, yr holl ffordd adref.
Mae’r sioe wedi cael ei pherfformio ar deithiau ledled y byd lle gwerthwyd pob tocyn, felly ffoniwch eich ffrindiau a threfnwch y noson mas orau posib i ferched.
Tocynnau: £28.00
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Ffôn: 01792 475715
Prynu tocynnau yma
Categories