Date/Time:
Date(s) - 06/12/2017
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Out There
Mae Milton Jones allan yno. Na, allan yno’n wirioneddol a’r tro ‘ma nid yw wedi anghofio’i allweddi’n unig. Mae’n dal drych gwirionedd i fyny i’n cymdeithas, ac mae’n gallu gweld drwyddi, sy’n golygu mwy na thebyg mai ffenestr yw hi. Yn ei sioe newydd sbon, bydd yn rhoi ei droed lawr ac yn codi’r clawr ar fin pedal celwyddau’r cyfryngau (nad yw’n cynnwys y datganiad hwn i’r wasg wrth gwrs). Bydd hefyd yn dringo i entrychion byd ffasiwn er y bydd mewn perygl o syrthio i agendor ei drôns diolwg. Bydd Milton yn siarad am ei fywyd hyd yn hyn – yr uchafbwyntiau a’r iselbwyntiau a pham mai prynu ei si-so ei hun oedd y penderfyniad gorau a wnaeth erioed. Ond efallai y dylai roi’r gorau i hyn i gyd a cheisio’r swydd uchaf yn y wlad – ond sut gallwch gael desg a chadair dro i fyny mynydd? O, a nawr mae e’ am fod yn brif weinidog hefyd. Allwn ni wneud yn waeth na’r gwleidyddion sydd gennym eisoes? Gallwn wir!
Tocynnau: £26.50
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Categories No Categories