Date/Time:
Date(s) - 07/07/2018 - 09/09/2018
All Day
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
Llun: N.S. Harsha, Reclaiming the Inner Space, 2017, Alwminiwm, paent acrylig, eliffantiaid pren, cardfwrdd, © NS Harsha Trwy garedigrwydd yr artist a Victoria Miro, Llundain/Fenis
Rhagarddangosfa: 06.07.18, 7-9pm
Dyddiadau’r arddangosfa: 07.07.18 – 09.09.18
Partneriaeth rhwng Artes Mundi a’r Glynn Vivian
N.S. Harsha yw artist digyffelyb India a dyma’r arddangosfa fwyaf o’i waith a gafwyd yn y DU, gan gynnwys dangosiad cyntaf gwaith yn syth o arddangosfa Biennale Sydney 2018 a darn arall o waith a grëwyd yn arbennig ar gyfer y Glynn Vivian. Enillodd Harsha wobr Artes Mundi yn 2008.
Mae gwaith Harsha yn cwmpasu themâu lleol a byd-eang, gan ddod â manylion bywyd pob dydd ei India frodorol ynghyd â digwyddiadau yn y byd a lluniau rydym yn eu gweld ar y newyddion. Mae ei waith yn cymysgu’r lleol â’r cyffredinol ac yn tynnu ein sylw at yr hurt a’r hynod gymaint ag y mae at y trasig a’r hyn sy’n rhyngwladol arwyddocaol.
Mae gwaith Harsha yn cynnwys paentiadau, cerfluniau a gosodiadau ond caiff ei ysbrydoli hefyd gan arfer sy’n cynnwys y gymdeithas, gan dynnu cymunedau i mewn i’w waith sy’n atgyfnerthu ei haelioni a’i ysbryd gan ganiatáu i’r gwyliwr edrych ar y byd o’i gwmpas mewn ffordd chwareus.
Rhan o fenter ar y cyd India – Cymru rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig
Gyda chefnogaeth hael gan Mollart Engineering Limited
Categories