Date/Time:
Date(s) - 17/06/2018
9:00 pm
Location: Canolfan Dylan Thomas
Mae’r sacsoffonydd Americanaidd adnabyddus, Pee Wee Ellis, yn enwog fel y dyn a fireiniodd sain arwr miwsig yr enaid, James Brown ac mae wedi hawlio’r teitl ‘Y Dyn a Ddyfeisiodd Ffync’.
Ym 1965 ymunodd Pee Wee â James Brown ac yn fuan creodd y gân ffync craidd caled gyntaf ‘Cold Sweat’. Dilynodd hyn gyda 26 o ganeuon eraill a gweithiodd fel cyfarwyddwr cerddoriaeth i James Brown tan 1969. Fel trefnydd a chynhyrchydd i CTI-Kudu Records yn y 1970au, roedd yn gyfrifol am ganeuon poblogaidd Esther Phillips, George Benson, Hank Crawford a nifer o rai eraill.
Ym 1979 cychwynnodd berthynas hir â Van Morrison ac ail-ffurfiodd y JB Horns gyda Fred Wesley a Maceo Parker.
Pee Wee Ellis: Sacsoffon
Lizzie Deane: Llais
Dennis Rollins: Trombôn
Gareth Williams: Allweddellau
Tim Cansfield: Gitâr
Laurence Cottle: Bas
Mark Mondesir: Drymiau
Tocynnau: £15 – £20
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Prynu tocynnau yma
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories