Date/Time:
Date(s) - 22/09/2018 - 23/09/2018
1:00 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Sad 1.00pm + 4.00pm, Sul 10.00am + 1.00pm
Ymunwch â Peppa wrth iddi baratoi i fynd ar daith wersylla gyffrous i’r coed gyda George a’i ffrindiau ysgol, gan gynnwys Pedro Pony, Suzy Sheep a Gerald Giraffe. Gyda’r blychau bwyd yn barod, a Daddy Pig yn gyrru’r bws, mae Peppa a’i ffrindiau’n gyffrous am eu hantur awyr agored, a fydd yn llawn gemau, chwerthin a cherddoriaeth fyw!
Mae’r gwersyllwyr hapus yn paratoi i fynd i gysgu cyn bo hir, ac yn gwrando ar bitran ysgafn y glaw. Yn ddiogel ac yn gynnes yn eu pebyll, gall y grŵp cyffrous edrych ymlaen at y bore, pan fydd llawer o byllau lleidiog i chwarae ynddynt!
Tocynnau: £12.50 – £19.00, Teulu(4) £68.00.
Mae consesiynau dethol ar gael. Polisi babanod sy’n cael eu cario – 0 i 6 mis am ddim; bydd angen tocyn ar fabanod 6 mis ac yn hyn.
Ffôn: 01792 475715
Categories