Date/Time:
Date(s) - 02/08/2017
6:30 pm
Location: Castell Ystumllwynarth
Illyria yn cyflwyno Pride and Prejudice gan Jane Austen
Mae’n ôl! Mae cynhyrchiad Illyria o gomedi gymdeithasol ardderchog Jane Austen wedi denu cynulleidfaoedd llawn am 4 blynedd yn olynol. Bu’n teithio ar draws y DU ac Ewrop gan ddenu clod beirniaid cenedlaethol ac yn ystod ei gyfnod perfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2003, roedd y ciwiau ar ei gyfer yn ymestyn i lawr y stryd!
Mewn corwynt cymdeithasol o ddawnsfeydd, ciniawau a swyddogion hynod briodadwy, mae’n ymddangos mai Lizzy Bennet a Fitzwilliam Darcy yw’r unig rai synhwyrol – ac maent yn casáu ei gilydd! Neu ydyn nhw? A fydd hi’n gallu gweld heibio’i falchder ac a fydd e’n goresgyn ei ragfarn er mwyn bod yn hapus gyda’i gilydd?
Os ydych chi’n meddwl bod Jane Austen yn ymwneud â gwisgoedd a the-partis yn unig, yna bydd yr addasiad arbennig hwn – yn gwbl seiliedig ar y nofel wreiddiol – yn sicr o newid eich meddwl. Dewch â phicnic gyda chi a mwynhewch berfformiad egnïol Illyria o stori fywiog a di-flewyn-ar-dafod Jane Austen!
Argymhellir ar gyfer oedolion a phlant 5+ oed.
Hyd y perfformiad: 2 awr 20 munud, gan gynnwys egwyl 20 munud.
Tocyn oedolyn ymlaen llaw: £11 Safonol: £14
Tocyn consesiwn* ymlaen llaw: £8 Safonol: £11
Pasbort i Hamdden ymlaen llaw: £6 Safonol: £8
Tocyn teulu** ymlaen llaw: £38
*Consesiynau – Myfyrwyr, plant dan 16 oed a’r henoed sy’n 65 oed ac yn hŷn
**Mae tocyn teulu ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 3 chonsesiwn, ar gael ymlaen llaw’n unig.
Categories No Categories