Date/Time:
Date(s) - 18/09/2018
8:00 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Pwy yw El Hablador? Ross Noble.
Na, pwy yw’r un y maen nhw’n ei alw’n El Hablador? Rwyf newydd esbonio, Ross Noble. Chi’n gwybod, gwallt hir, digrifwr sy’n dawnsio o gwmpas y llwyfan, gan greu sioe o’r holl lol yn ei ben.
Ond beth yw chwedl El Hablador? Dwi ddim yn credu ei fod yn bodoli. Mae’n amlwg mai Ross sy’n ceisio dod o hyd i enw ar gyfer ei sioe, fel y gall ymddwyn fel ei fod yn rhyw fath o ffigwr dirgel.
Iawn, rwy’n deall.
Mae Ross Noble yn dychwelyd i ddawnsio o gwmpas y llwyfan, gan greu sioe gomedi ddoniol o’r holl lol yn ei ben. Ar ryw bwynt, efallai y bydd yn crwydro i fan cysgodol ar y llwyfan ac yn ymddwyn yn rhyfedd.
Cadwch le nawr i weld yr un sy’n galw ei hun yn El Hablador*
*Ross yw’r unig un sy’n galw ei hun yn El Halbador.
Tocynnau: £25.50
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Categories