Date/Time:
Date(s) - 26/11/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Mae ‘Russian State Ballet and The Opera House’ yn cyflwyno bale diamser gyda dawnsio gwefreiddiol
Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky. Yn cynnwys cerddorfa fyw gyda thros 30 o gerddorion.
‘This was an absolute sumptuous ballet with the most gorgeous sets and costumes I have seen in years.’ The Central Fife Times.
Yn dilyn perfformiadau’r llynedd, lle gwerthwyd pob tocyn, mae ‘Russian State Ballet and The Opera House’ yn dychwelyd am eu taith flynyddol i’r DU gyda’i bale cynhyrchiad llawn cyfareddol. 135 o flynyddoedd yn ôl, clywodd cynulleidfaoedd Swan Lake gan Pyotr Ilyich Tchaikovsky, y trefnydd enwog o Rwsia, am y tro cyntaf. O’r adeg honno, newidiodd bale am fyth.
Mae Swan Lake yn adrodd stori Odette ac Odile, dwy fenyw ifanc sy’n edrych mor debyg i’w gilydd y mae’n hawdd eu cymysgu. Chwedl gymhellol o ramant drasig lle mae tywysoges, Odette, yn cael ei throi’n alarch gan felltith ddieflig. Wrth hela, daw’r Tywysog Siegfried ar draws haid o elyrch. Ar ôl i un o’r elyrch droi’n fenyw ifanc brydferth mae’n cael ei swyno ar unwaith – a fydd ei gariad yn ddigo cryf i dorri’r felltith ddieflig sy’n effeithio arni.
O ysblander mawreddog neuadd ddawns y palas i’r llyn yng ngolau’r lleuad lle mae’r elyrch hardd yn llithro mewn ffurfiant perffaith, mae’r stori gyfareddol hon o ramant drasig yn cynnig popeth.
Yn fwy nag unrhyw fale arall, mae Swan Lake yn cyfleu’r ystod lawn o emosiynau dynol – o obaith i anobaith, o ddychryn i dynerwch, o bruddglwyf i ecstasi.
Dyma noson hyfryd allan, gydag atgofion i’w trysori am amser maith ar ôl i’r llenni gwympo.
Tocynnau: £28.00 – £35.00 Mae consesiynau dethol ar gael
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English