Date/Time:
Date(s) - 29/08/2017 - 30/08/2017
All Day
Location: Theatr y Grand Abertawe
Aeth llygoden am dro drwy’r goedwig dywyll drwchus…
Dewch i ymuno â’r Llygoden ar antur feiddgar drwy’r goedwig dywyll, drwchus yn yr addasiad hudolus, cerddorol hwn o’r clasur o lyfr lluniau gan Julia Donaldson, ac Axel Scheffler.
Wrth chwilio am gnau cyll, mae’r llygoden yn cwrdd â’r cadno cyfrwys, yr hen dylluan hynod a’r neidr sy’n dwlu ar bartïon. A fydd stori’r Gryffalo dychrynllyd yn achub y llygoden rhag bod yn damaid blasus i greaduriaid llwglyd y goedwig? Wedi’r cwbl, nid oes y fath beth â Gryffalo – nag oes?
Caneuon, hiwmor a hwyl ddychrynllyd i blant 3 oed ac yn hŷn a’u rhieni, yn y sioe boblogaidd hon sydd wedi teithio ledled Prydain a’r byd!
Tocynnau: £12.00, Grwpiau (10+) £9.50
Mae pob tocyn yn cynnwys cyfraniad gwerth 50c at y Gronfa Adfer.
Codir ffi am gadw lle ar-lein.
Categories No Categories