Date/Time:
Date(s) - 21/09/2018 - 24/02/2019
10:00 am - 5:00 pm
Location: Oriel Gelf Glynn Vivian
Atriwm
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o fod yn arddangos gwaith pwerus Yinka Shonibare sy’n archwilio themâu gwrthdaro, ymerodraeth ac ymfudiad yn y flwyddyn sy’n nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
I’w gyflwyno ar y cyd â Nawr Yr Arwr gan Marc Rees, a gafodd ei gomisiynu ar gyfer 14-18 NOW, mae gwaith cerflunio Shonibare, End of Empire, yn archwilio sut newidiodd y cynghreiriau a ffurfiwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gymdeithas Prydain am byth a sut maent yn parhau i effeithio arnom heddiw.
Nawr am Fwy
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ddigwyddiadau ymylol y gyfres Nawr yr Arwr o dan faner Nawr am Fwy a gynhelir ar draws Abertawe.
Mae Nawr Yr Arwr/Now The Heroyn defnyddio paneli Ymerodraeth Prydain Brangwyn fel cyfle i drafod naratif rhyfel, heddwch, undeb a chytgord. Mae’r paneli’n cynnig gweledigaeth glir o bosibiliadau lliwgar ac optimistaidd yr ymerodraeth ar ôl y rhyfel ac yn datgelu trasiedi rhyfel sy’n cuddio y tu ôl i’r olygfa epilgar a phrysur.
Mae Nawr am Fwy yn ŵyl fach a fydd yn debyg i Art Weekend ac fe’i cynhelir rhwng dydd Gwener 21 Medi a dydd Sadwrn 29 Medi. Mae Nawr am Fwyyn cynnwys holl sefydliadau diwylliannol y ddinas, boed yn fawr neu’n fach, a byddant yn ymateb i brif thema Nawr yr Arwr/Nawr am Fwy yn eu ffordd unigryw eu hunain – effaith rhyfel a gwrthdaro ar berthnasoedd pobl ac i’r paneli. Bydd Nawr am Fwy yn cynnwys digwyddiadau untro arbennig, arddangosfeydd, sgyrsiau gan artistiaid, gweithgareddau a llwybrau i deuluoedd, gwaith celf cyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau gan artistiaid cyfoes ardderchog yn nifer o leoliadau ar draws Abertawe.
Ceir mynediad i leoliadau a phrosiectau Nawr am Fwy am DDIM.
Categories