Bydd yr artist rhyngddisgyblaethol digyffelyb Marc Rees (P.A.R.A.D.E., {150}, Tir Sir Gâr, Raw Material: Llareggub Revisted) yn trawsnewid dinas Abertawe am bum niwrnod ym mis Medi. Bydd y profiad theatrig hwn yn mynd ag ymwelwyr ar daith ryfeddol drwy dri naratif rhyfel; o draeth hardd Bae Abertawe i ddarganfod trysorau artistig yn Neuadd Brangwyn eiconig y ddinas.
Mewn cynhyrchiad dwy awr a hanner y gellir ymgolli’n llwyr ynddo, bydd Rees yn gweithio gyda thîm creadigol nodedig i roi bywyd i’r gerdd epig ‘Y Gododdin’, drwy offeren dros y meirw newydd y gellir ymgolli ynddo wedi’i sgorio gan Jóhann Jóhannsson (The Theory of Everything, Arrival), mewn cydweithrediad â’r egin gyfansoddwr o Gymru, Owen Morgan Roberts. Mae’r geiriau gan yr awdur o Gymru Owen Sheers (Mametz, The Passion) ac fe’u cenir gan Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton sydd wedi’i enwebu ddwywaith ar gyfer gwobr Grammy.
Yng Nghymru, y prosiect uchelgeisiol hwn fydd uchafbwynt y rhaglen ar gyfer blwyddyn derfynol 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau’r DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhelir Nawr yr Arwr yng nghyfadeilad Neuadd y Ddinas/Neuadd Brangwyn ac o’i gwmpas yn erbyn cefndir rhagweithiol Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan Syr Frank Brangwyn RA (1867-1956), fel digwyddiad agoriadol Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2018.
Meddai Marc Rees, “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rwyf wedi darganfod dro ar ôl tro y gall gweithiau diwylliant a chreadigrwydd agor cymunedau yn ogystal ag adeiladau sydd wedi’u cau ers blynyddoedd. Mae Nawr Yr Arwr yn adlewyrchu hanes cyfoethog Abertawe ac yn taflu goleuni ar gyfres o baentiadau sydd wedi’u hesgeuluso i ryw raddau gyda neges drasig yn yr hyn sy’n addo bod yn brofiad gwirioneddol unigryw y gellir ymgolli ynddo. Ni allaf feddwl am well ffordd o nodi blwyddyn olaf 14-18 NOW na chreu cynhyrchiad Cymreig diffiniol, mewn coffâd ingol.”
Meddai’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas, “Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Nawr Yr Arwr – a fydd yn dod â chyfnodau o’n hanes ynghyd yn erbyn y cefndir rhagorol hwn. Rwy’n siŵr y gwelwn gynhyrchiad a fydd yn ysgogi’r meddwl ac yn ysgogi emosiynau cryf ac a fydd yn deyrnged deilwng i’r Cymry hynny y mae pob un ohonom yn cofio am eu haberth. Mae’r prosiect hwn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn ymdrechion coffaol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018, ac mae momentwm yn cynyddu cyn ein ffocws eleni ar y Cadoediad a diwedd y rhyfel. Yn dilyn y penderfyniad ynghylch Dinas Diwylliant y DU 2021, rwyf wrth fy modd bod Abertawe’n lansio prosiect mor uchelgeisiol sy’n dangos bod yr egni, yr hyder a’r angerdd, a oedd mor amlwg yn ystod y cais, yn parhau.”
Mae tirwedd ryfeddol, eidylaidd y Brangwyn yn cuddio trasiedi hanesyddol, ac mae’r paneli’n hynod bwysig fel modd o goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hyn wedi ysbrydoli Marc Rees i greu perfformiad epig, mawr ar safle penodol sy’n plethu straeon am wrthdaro drwy ymosodiad milwrol, parti priodas aflafar, dawns brotest a gwylnos hynafol. Mae Nawr yr Arwr yn archwilio hanesion brwydrau o dri chyfnod arbennig yn hanes Cymru; rhyfelwr canoloesol, Preifat o’r Rhyfel Byd Cyntaf a milwr cyfoes, ac mae cymeriad blaenllaw, wedi’i chwarae gan y perfformiwr aruthrol o Gymru sef Eddie Ladd, yn cyferbynnu â’r rheiny gydag ymdeimlad o obaith.
David Williams, Capten 2il Fataliwn y Reifflwyr, a fagwyd yn Abertawe, fydd yn chwarae rhan y milwr cyfoes. Bu’n gwasanaethu yn Afghanistan, Gabon, De Sudan ac Irac ac astudiodd yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Ym mis Ionawr 2018, gadawodd Williams y fyddin ac mae’n bwriadu ailhyfforddi fel therapydd a hyfforddwr codi pwysau a bod yn rhan o gymuned gelf Abertawe.
Comisiynwyd Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan yr artist Frank Brangwyn gan Dŷ’r Arglwyddi i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, ond bernid eu bod yn ‘rhy lliwgar a bywiog’ i fod yn briodol. Gyda chysylltiadau Cymreig Brangwyn ar ochr ei dad, cynigiodd dinas Abertawe gartref i’r darnau hynod hyn o gelf ac maent wedi bod yn ganolbwynt Neuadd Brangwyn ers 1934.
‘Y Gododdin’ a ysgrifennwyd gan Aneurin yn 600 OC yw un o’r cerddi Cymraeg hynaf sy’n goroesi. Mae’r gerdd epig yn adrodd hanes brwydr Catraeth, lle lladdwyd bron 300 o ryfelwyr Celtaidd. Roedd y gerdd yn ddylanwad mawr ar y gerdd hir ‘In Parenthesis’ gan David Jones a oedd yn myfyrio ar y gyflafan a fu’n dyst iddo yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyfeiriwyd at y gerdd gan Owen Shears fel ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith blaenorol, ‘Pink Mist’.
Meddai Jenny Waldman, Cyfarwyddwr 14-18 NOW, “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Marc Rees ar y comisiwn newydd hwn ar gyfer ein tymor olaf. Mae Marc wedi dod â thîm creadigol neilltuol at ei gilydd i gysylltu cynulleidfaoedd o bob oed â threftadaeth ryfeddol Neuadd Brangwyn a’r hyn mae’n ei gynrychioli. Bydd y gwaith pwerus hwn yn dod ag effaith ddofn y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru’n fyw.”
Mae Nawr Yr Arwr yn rhan o Ŵyl Ryngwladol Abertawe a Blwyddyn y Môr Croeso Cymru. Fe’i hariennir yn rhannol drwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Croeso Cymru.
Comisiynwyd Nawr yr Arwr gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydau’r DU ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda chefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chan yr Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae’r sioe yn cael ei chynhyrchu gan Ganolfan Celfyddydau Taliesin a Phrifysgol Abertawe gyda chefnogaeth hael Cyngor Abertawe, Gŵyl Ryngwladol Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Ariennir y prosiect hefyd drwy Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru sy’n ceisio annog syniadau blaengar newydd ar gyfer cynnyrch drwy weithio mewn partneriaeth, a gaiff fwy o effaith ac a fydd yn denu mwy o ymwelwyr i Gymru.