Gyda llawer o bobl yn bwriadu ymweld â Gerddi Clun yn eu Blodau ym mis Mai, roeddem yn meddwl eich helpu i wneud y mwyaf o’ch ymweliad drwy lunio rhestr o 10 peth gwych y gallwch eu gweld yn y parc. I’r rhai ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â Gerddi Clun, mae’n ardd fotaneg odidog sy’n edrych dros Fae Abertawe. Fe’u crëwyd gan William Graham Vivian a brynodd Gastell Clun ym 1860 cyn cafodd ei drosglwyddo i’w nai, Admiral, ym 1921.
Ceir rhaglen wych o weithgareddau yng Ngerddi Clun yr wythnos nesaf wrth i’r parc ddod yn fyw oherwydd lliwiau llachar y blodau. Mae mis Mai yn amser gwych i ddod i weld Gerddi Clun ar eu gorau oherwydd bod y rhododendronau ac asaleâu arobryn yn eu llawn dwf, a chyda cherddoriaeth fyw a theithiau tywys, mae’r parc yn cynnig rhywbeth i bawb ei weld. Wedi’u harwain gan arddwyr arbenigol y parc, mae’r teithiau tywys, sydd ar gael bob dydd Mercher a dydd Sul yn ystod mis Mai yn cychwyn am 2pm, yn ffordd wych o ddysgu mwy am y gwaith caled sy’n digwydd i gynnal arddangosiadau hyfryd y gerddi, ac efallai y casglwch rai awgrymiadau i fynd adref â chi. Bydd y rhai sy’n dwlu ar gerddoriaeth am ymweld â’r gerddi ar ddydd Sul am 3pm pan fydd bandiau lleol megis Band Cyngerdd Abertawe yn perfformio ar y llwyfan arbennig am gyfres o gyngherddau prynhawn yn ystod mis Mai. Nid yn unig y mae Gerddi Clun yn cynnwys oddeutu 2,000 o rywogaethau gwahanol o blanhigion, maent hefyd yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt.
Gyda map hawdd ei ddilyn wrth y fynedfa ac arwyddion sy’n dangos y ffordd, mae’n hawdd cerdded o amgylch y gerddi ar eich pennau eich hunain. Ewch un dydd i chwilio am y goedwig clychau’r gog hardd, mae’n wych ar gyfer ffotograffau, neu beth am fwynhau picnic yn y ddôl flodau gwyllt?
1: Y Gasebo
Adeiladwyd y gasebo fel gwylfan i Admiral wylio’r llongau’n dod i mewn i Fae Abertawe
- Y Bont Japaneaidd
Un o nodweddion enwocaf Gerddi Clun yw’r Bont Japaneaidd. Mae dŵr sy’n codi ar Gomin Clun, yn teithio o dan y Bont Japaneaidd a thrwy’r gerddi i ymuno â’r môr yn Blackpill.
- Coedwig Clychau’r Gog
Mae’r olygfa flodeuo naturiol wefreiddiol hon, Coedwig Clychau’r Gog, yn tyfu o dan gysgod y Derw Twrci.
- Bwthyn Joy
Adeiladwyd Bwthyn Joy yn fwthyn miniatur er diddanwch ac addysg merched Admiral. Yma cawsant eu haddysgu gan nanis i ddarllen, ysgrifennu a choginio.
- Y Bont Eidalaidd
Unwaith yn nodwedd ddŵr ar dir y castell, mae’r Bont Eidalaidd wedi goroesi ynghyd â’r plinthiau a gynhaliodd y cerfluniau marmor yn wreiddiol.
6. Beddau Cŵn
Ger mynedfa Sant Catwg i Gerddi Clun, ceir cŵn bychain i goffáu anifeiliaid anwes Admiral.
7. Asaleâu a Rhododendronau
Mae Gerddi Clun yn enwog am eu haselâu a’u rhododendronau lliwgar, sef y planhigion y mae’r rhan fwyaf o bobl yn tynnu lluniau ohonynt.
8. Yr Ardd Gors
Mae’r Ardd Gors yn gartref i reonllys mawr sy’n gallu tyfu hyd at wyth troedfedd ac ef yw’r planhigyn llysieuol mwyaf yn Ewrop.
9. The Tower
The Tower was originally built as a viewing tower for the Admiral to overlook his collection of rhododendrons, and out towards the sea.
10. Y Tŵr
Adeiladwyd y tŵr yn wreiddiol fel gwylfan i Admiral edrych dros ei gasgliad o rododendronau, ac allan i’r môr.
Nawr eich bod yn gwybod yr hyn i’w weld a’i wneud yng Ngerddi Clun, gallwch ddechrau cynllunio’ch taith yn joiobaeabertawe.com.
I gael mwy o wybodaeth am Erddi Clun a digwyddiadau Gerddi Clun yn eu Blodau, gan gynnwys ffioedd a mannau cwrdd, ewch i www.abertawe.gov.uk/clunyneublodau
Rhaglen ddigwyddiadau
Dydd Sul 3 Mai, 3.00pm – 5.00pm
Band Mawr Treforys
Am ddim
Dydd Sul 10 Mai, 3.00pm – 5.00pm
Band Cyngerdd Abertawe
Am ddim
Dydd Sul 17 Mai, 10.00am – 4.00pm
Gwerthiant Planhigion Prin
Dydd Sul 17 Mai, 3.00pm – 5.00pm
Cerddorfa Acordion
Am ddim
Dydd Sul 24 Mai, 3.00pm – 5.00pm
Band Tref Casllwchwr
Am ddim
Dydd Sul 31 Mai, 3.00pm – 5.00pm
Band Mawr Constellation
Am ddim
Bob dydd Mercher a dydd Sul yn ystod mis Mai, 2.00pm
Teithiau Gerddi Clun yn eu Blodau
Tocynnau: £2.50, 50c consesiynau
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English