Mae’n un o fwydydd mwyaf adnabyddus a danteithiol Cymru, a pha adeg well i wneud pice ar y maen na Dydd Gŵyl Ddewi? Rydyn ni wedi bod yn brysur yn pobi rhai ar gyfer y swyddfa a dyma’r rysáit fel y gallwch wneud eich rhai’ch hunan.
Cynhwysion;
– 225g o flawd plaen
– 50g o fenyn
– 50g o lard
– ½ llwy de o sbeis cymysg
– ½ llwy de o bowdwr codi
– 85g o siwgr mân
– 1 ŵy
– Llaeth
– 50g o gyrains
Rysáit
– Defnyddiwch bowlen weddol fawr. Ychwanegwch bowdwr codi, pinsiaid o halen, siwgr mân, sbeis cymysg a blawd.
– Torrwch y menyn a’r lard yn ddarnau bach a’u rhwbio’n araf yn y cymysgedd gan ddefnyddio’ch bysedd nes bod y cyfan wedi cyfuno ac yn friwsionllyd.
– Ychwanegwch y cyrains. Defnyddir cyrains yn draddodiadol, ond os ydych chi’n teimlo’n fentrus, rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol, fel sglodion siocled neu gnau coco!
– Tylinwch yr ŵy yn y cymysgedd nes bod y toes yn feddal, gan ychwanegu diferyn o laeth os yw’r cymysgedd yn rhy sych
– Rhowch ychydig o flawd ar eich bwrdd gwaith a rholiwch y toes i fod tua’r un mor drwchus â’ch bys bach. Defnyddiwch gyllell neu dorrwr cwcis i dorri cylchoedd tua 6cm o led.
– Irwch radell neu badell ffrïo drom (neu lechfaen os ydych chi’n hynod draddodiadol!) a’u rhoi ar wres cymedrol.
– Coginiwch nhw am oddeutu 3 munud ar y ddwy ochr nes bod y ddwy ochr yn frown euraidd.
– Ysgeintiwch ychydig mwy o siwgr arnyn nhw a’u mwynhau’n dwym! Neu os ydych chi eisiau, torrwch bob pic ar y maen yn hanner, taenwch ychydig o jam arnyn nhw a’u gwasgu’n ôl at ei gilydd ar gyfer teisennau jam hollt!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English