Gall cefnogwyr pêl-droed wylio Cymru yn cystadlu yn Ewro 2016 ar Sgrîn Fawr Sgwâr y Castell.
Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd pob gêm Cymru yn cael ei dangos yn fyw o Ffrainc ar y sgrîn yng nghanol y ddinas fel rhan o haf gwych llawn chwaraeon ar draws y ddinas.
Bydd Cymru yn dechrau ar ei hymgyrch yn y Bencampwriaeth Ewropeaidd yn erbyn Slofacia am 5pm nos Sadwrn 11 Mehefin yn Bordeaux.
Dan reolaeth Chris Coleman, cyn-ddisgybl Ysgol yr Esgob Vaughan a oedd yn arfer chwarae i’r Elyrch, bydd tîm Cymru wedyn yn chwarae yn erbyn Lloegr yn Lens am 2pm ddydd Iau 16 Mehefin cyn wynebu Rwsia am 8pm nos Lun 20 Mehefin yn Toulouse.
Os bydd Cymru yn fuddugol yn ei grŵp, yna bydd y gemau dilynol hefyd yn cael eu dangos yn fyw ar Sgrîn Fawr Sgwâr y Castell.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English