Er bod yr haf yn dod i ben, Abertawe yw’r llwyfan mwyaf o hyd gyda llwyth o ddigwyddiadau enfawr yn cael eu cynnal yn y ddinas! Mae’r digwyddiadau gwych yn parhau i ddod, gan gynnwys gŵyl cerddoriaeth a chelfyddydau o’r radd flaenaf, perfformiadau theatraidd arloesol, digwyddiadau chwaraeon i bobl sy’n dwlu ar ffitrwydd a llawer mwy.
10k Bae Abertawe Admiral – 16 Medi
Mae diwrnod y ras yn prysur nesáu – bydd ras flynyddol 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ar 16 Medi. Bydd miloedd o bobl ar y llinell gychwyn gan obeithio curo eu hamseroedd gorau, bod yn actif gyda ffrindiau neu godi arian ar gyfer elusennau. Dyma’r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg y DU yn 2018!
Nawr yr Arwr – 26 to 29 Medi
Cynhelir pedair noson o theatr drawiadol rhwng 26 a 29 Medi wrth i Nawr yr Arwr fynd â chynulleidfaoedd ar daith hynod o draeth enfawr Abertawe i leoliad croesawgar Neuadd Brangwyn y ddinas. Gan ddefnyddio dawnsio, celf, rhyddiaith, cerddoriaeth a pherfformio, mae’r sioe bwerus hon yn plethu tair stori am ryfel ynghyd i greu digwyddiad theatrig arbennig. Mae’r tocynnau ar werth ac yn gwerthu’n gyflym!
Ras 6k ar gyfer madredd – 30 Medi
Codwch arian at achos da ym mis Medi gyda ras 6k ar gyfer madredd!
Ar 30 Medi, bydd SeGMED (Grŵp Madredd Adran Argyfwng Treforys) yn falch o gyhoeddi ras elusennol 6k Cymru ar gyfer madredd, gan godi arian a chynyddu ymwybyddiaeth o fadredd.
Ras hwyl ar gwrs gwastad dros bellter hwylus sy’n addas ar gyfer pob gallu yw hon, felly dewch â’ch ffrindiau, a hyd yn oed rhai gwisgoedd ffansi a chadwch eich lle ar y llinell gychwyn heddiw!
Gŵyl Ryngwladol Abertawe – 22 Medi a 7 Hydref
Bydd Gŵyl Ryngwladol Abertawe yn dychwelyd yr hydref hwn! Gan ddechrau ar 22 Medi, gallwch fwynhau pythefnos o gerddorion o’r radd flaenaf, cyfansoddwyr, gosodiadau celf, arddangosfeydd, darlithoedd, digrifwyr a llawer mwy. Mae’r ŵyl flynyddol hon yn cynnwys rhai o’r bobl enwocaf yn y byd cerddoriaeth a’r celfyddydau a disgwylir i ŵyl eleni fod yr un fwyaf a’r un orau erioed – dewch o hyd i fwy o wybodaeth!
The Greatest Showman – 5 & 6 Hydref
Bydd Gŵyl Ymylol Abertawe yn dychwelyd ym mis Hydref, a bydd darllediad arbennig o ffilm The Greatest Showman ar y Sgrîn Fawr yn Sgwâr y Castell. Peidiwch â cholli’r cyfle i ymgolli yn y profiad sinema awyr agored hwn! Ond nid dyna’r cyfan – bydd bwyd stryd, perfformiadau syrcas ar y stryd a llawer mwy o hwyl i’r teulu cyfan!
Gŵyl Ymylol Abertawe – 5 a 7 Hydref
Bydd Gŵyl Ymylol Abertawe’n dychwelyd ar gyfer ei hail flwyddyn a bydd yn cael ei chynnal mewn llawer o leoliadau yng nghanol dinas Abertawe, gan gyflwyno rhaglen llawn digwyddiadau difyr, cyffrous, deinamig a bywiog. Gan gynnwys tri diwrnod a thair noson o gerddoriaeth fyw, barddoniaeth, celf, darlleniadau, comedi a llawer mwy, disgwylir i Ŵyl Ymylol Abertawe fod yn fwy ac yn well nag erioed.