Mae atyniad taro a phytio Heol Ashleigh bellach yn cael ei drawsnewid yn atyniad golff-troed a fydd yn agor ddechrau mis Mai.
Mae golff-troed yn gyfuniad o bêl-droed a golff, lle mae cyfranogwyr yn defnyddio pêl-droed i anelu at dyllau mawr ar y cwrs.
Swansea FootGolf fydd yn rheoli’r atyniad mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe. Cyflwynodd y dynion busnes Roger Maliphant a Rhydian Thomas gynnig llwyddiannus i reoli’r cyfleuster ar ôl i’r cyngor chwilio am weithredwyr tymor byr ar gyfer nifer o’i atyniadau hamdden awyr agored.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English