Bydd y grŵp pop ABC yn dod â blas yr 80au i Parc Singleton eleni ac yn ymuno â rhestr perfformwyr Proms yn y Parc BBC Cymru yn Abertawe, dydd Sadwrn 14 Medi, 2019. Bydd ABC yn perfformio rhai o’u caneuon adnabyddus sy’n cynnwys The Look Of Love a Poison Arrow.
Hefyd yn perfformio fydd y bariton ac enillydd BBC Canwr y Byd Caerdydd eleni Andrei Kymach ynghyd â’r sacsoffonydd 22 oed a enillodd Cerddor Jazz Ifanc y BBC yn 2018, Xhosa Cole. Bydd y artistiaid i gyd yn perfformio gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC gyda’r cyfeilydd Robert Ames.
Wrth y llyw yn arwain y noson fydd cyflwynydd The One Show Alex Jones a newyddiadurwr a chyflwynydd Radio 1, Steffan Powell.
Meddai Martin Fry, ABC: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i ddod ag ABC i Proms yn y Parc ym Mharc Singleton ar 14eg o Fedi. Hwn fydd y tro cyntaf i ni berfformio gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.
“Mae perfformio gyda gerddorfa yn anhygoel – mae’r ‘buzz’ o ganu gyda 80 o gerddorion tu ôl i chi wastad yn brofiad gwefreiddiol.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Arloesi, Adfywio a Thwristiaeth Robert Francis-Davies, Cyngor Sir Abertawe: “Ry’n ni mor hapus i fod yn gweithio gyda BBC Cymru unwaith eto ar Proms yn y Parc, Abertawe mis nesaf.
“Dyma fydd y 13eg tro i’r cyngerdd arbennig hwn gael ei gynnal yn Abertawe, ac mae’n ychwanegiad poblogaidd i raglen ddiwylliannol y ddinas.
“Mae Abertawe yn dathlu 50 mlynedd fel dinas eleni. Gyda thalent newydd lleol Shellyann yn rhannu llwyfan gydag artistiaid enwog fel ABC, o flaen torf cartref gyda’r fflagiau yn chwifio, cerddoriaeth arbennig a’r arddangosfa tân gwyllt i gloi’r noson, fe fydd Proms yn y Parc y BBC yn rhoi cyfle gwych i’r miloedd fydd yn mynychu i ddathlu ac i gloi rhaglen digwyddiadau haf Parc Singleton.”
Dywedodd y Pennaeth Comisiynu Nick Andrews: “Mae BBC Proms yn y Parc bob amser yn noson arbennig, hyd yn oed hudol o gerddoriaeth mewn lleoliad gwych. Gydag artistiad byd-enwog, mae‘r Proms Abertawe eleni yn addo’r un safon eto.
Eleni, bydd y sioe yn mynd â’r gynulleidfa i’r gofod allanol, gyda cherddoriaeth i ddathlu 50 mlynedd ers glanio ar y lleuad, sy’n cynnwys Also Sprach Zarathustra gan R.Strauss a ddaeth yn adnabyddus drwy 2001: A Space Odyssey, y thema o E.T. the Extra-Terrestrial, a Lake in the Moonlight gan Tchaikovsky.
Mae’r achlysur teuluol poblogaidd yn croesawu torfeydd i ddod â phicnic a baneri gyda nhw i ddathlu Noson Ola’r Proms – noson o gerddoriaeth, tân gwyllt a hwyl. Daw’r noson i ben gyda chynulleidfa Neuadd Albert yn ymuno â pharciau ar draws y DU.