Bydd SAITH pen-cogydd a deuddydd difyr yn llawn cerddoriaeth, adloniant a bwyd yn trawsnewid canol y ddinas i helpu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Abertawe eleni.
Bydd seren The Great British Bake Off Jon Jenkins, cogydd o fwyty Beach House, Hywel Griffith, cystadleuydd MasterChef Imran Nathoo a’r cogydd Anthony Evans, a enwebwyd am wobr BAFTA, ymhlith yr arbenigwyr a fydd yn arddangos eu sgiliau ar Stryd Rhydychen fel rhan o ddigwyddiad Croeso eleni ar 1 a 2 Mawrth o 11am i 4pm
Swynodd y cogydd Jon Jenkins filiynau o wylwyr yng nghyfres The Great British Bake Off y llynedd, wrth i Imran Nathoo ddenu sylw yng nghystadleuaeth MasterChef 2017. Mae Anthony Evans yn ffigwr adnabyddus yng nghylchoedd coginio yng Nghymru hefyd oherwydd ei raglen goginio, Stwffio, a enwebwyd am wobr BAFTA ac a ddarlledir ar S4C.
Bydd hefyd rai gweithgareddau gwych i blant a gall unrhyw un sydd am roi cynnig ar siarad Cymraeg neu ymgolli mewn diwylliant Cymreig wneud hynny ym mhabell CWTSH, sydd wedi’i chefnogi gan Fenter Iaith Abertawe.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae Croeso Abertawe yn cynnig penwythnos o adloniant amrywiol i’r teulu cyfan. Mae gan y digwyddiad naws Cymreig a fydd yn apelio at ein preswylwyr a’n hymwelwyr fel ei gilydd”
“Bydd yr arddangosiadau coginio byw gan gogyddion blaenllaw, digwyddiadau cerddorol penodol, didi rugby a chymeriadau sy’n crwydro’n helpu i sicrhau y bydd yn ddigwyddiad gwych.”
Wedi’i drefnu gan Gyngor Abertawe, bydd stondinau ar hyd Stryd Rhydychen yn arddangos bwyd, diod a phice ar y maen cartref. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys y cystadleuydd a gyrhaeddodd rownd derfynol Welsh Factor, Olion, Arwel Lloyd, Ragsy a dylai pobl ifanc gadw llygad am y fflachgriw trawiadol brynhawn dydd Sadwrn.