Bydd tîm erobatig arbenigol yn dewis Bae godidog Abertawe dros ddinas hynafol Petra yr haf hwn.
Cadarnhawyd y bydd y Royal Jordanian Falcons yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru.
Mae’r tîm llysgenhadol arobryn, a sefydlwyd ym 1976, yn cynnwys pum awyren erobatig. Trosglwyddwyd eu pencadlys yn ddiweddar i ddinas Aqaba yng ngwlad yr Iorddonen ar arfordir Môr Coch y wlad i wella twristiaeth a buddsoddiad yn yr ardal. Mae eu sesiynau hyfforddi’n cynnwys awyrennau’n hedfan dros fannau gan gynnwys mynyddoedd Wadi Rum a dinas hynafol Petra – un o safleoedd archaeolegol cyfoethocaf a mwyaf y byd.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf a dydd Sul 12 Gorffennaf.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae gan y Royal Jordanian Falcons enw da rhyngwladol am gywirdeb, proffesiynoldeb a pherfformiadau trawiadol. Mae cadarnhau eu bod ar gael ar gyfer ail ddiwrnod Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yr haf hwn yn hwb sylweddol arall ar gyfer digwyddiad a fydd yn sicr yn aros yn hir yn y cof.
“Mae’r cyfuniad o arddangosiadau awyr ac adloniant ar y tir yn golygu ein bod unwaith eto’n disgwyl dros 100,000 o bobl y dydd i ddod i’r promenâd a gwylio’r achlysur yn yr awyr uwchben Bae Abertawe. Dyma pam mae’r digwyddiad yn uchafbwynt allweddol yn ein rhaglen ddigwyddiadau Joio Bae Abertawe amrywiol dros yr haf i roi gwên ar wynebau pobl.”
Mae awyrennau eraill sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru’n cynnwys hofrennydd Chinook, Eurofighter Typhoon a’r Red Arrows yn dychwelyd ar y ddau ddiwrnod oherwydd cefnogaeth ariannol gan Brifysgol Abertawe. Bydd dau spitfire a Lancaster o Hediad Coffa Brwydr Prydain hefyd yn cymryd rhan, yn ogystal â Sea King yr Awyrlu Brenhinol a hofrenyddion Wildcat y Llynges Frenhinol.
Ewch i www.sioeawyrcymru.com i archebu amserlen y digwyddiad ymlaen llaw neu i gael lle parcio â blaenoriaeth.
Edrychwch ar y siop ar gyfer nwyddau’r sioe awyr (hwdis, mygiau a chrysau T hyfryd).
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English