Bydd ymweliad â Marchnad Nadolig Abertawe yn ffordd berffaith o ddechrau eich dathliadau Nadoligaidd, ac os nad yw hynny’n ddigon, bydd taith i weld Siôn Corn yn sicr o blesio. Dewch o hyd iddo ef a’i goblynnod yn y groto ar Stryd Portland! Bydd y siopau’n llawn anrhegion Nadolig ac addurniadau Nadoligaidd. Ac wrth gwrs, ni fyddai Nadolig yn Abertawe’n gyflawn heb fynd i siopa ym Marchnad Abertawe sy’n eiconig.
Profwch hwyl yr ŵyl ym Marchnad Nadolig Abertawe!
Cynhelir tan ddydd Iau 20 Rhagfyr, gyda thros 40 o grefftwyr talentog, masnachwyr a bydd gwerthwyr bwyd stryd yn cynnig amrywiaeth gwych o anrhegion unigryw, danteithion blasus ac addurniadau hyfryd.
Os ydych yn chwilio am anrheg arbennig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’r gemyddion, y ffotograffwyr, y chwythwyr gwydr a’r artistiaid cerameg ar hyd Stryd Rhydychen a Ffordd y Dywysoges.
Bydd plant wrth eu bodd â’r cynnyrch nwyddau llaw hyfryd wedi’u personoli, danteithion melys a reid ar y carwsél, a bydd y rheiny sydd wrth eu bodd â bwyd a diod yn sicr o werthfawrogi fodca taffi crefft, siocledi o waith llaw, gwinoedd a chawsiau gwych.
Bydd ffefrynnau bwyd yr ŵyl ar gael, ynghyd â rhai bwydydd cyfandirol bendigedig a bar Bafaraidd, a chaban clyd lle gallwch ymlacio gyda gwydraid o win y gaeaf neu fwg o gwrw Almaenaidd.
Bydd amrywiaeth o fasnachwyr newydd yn y cabanau bob wythnos, felly rydych chi’n siŵr o ganfod rhywbeth gwahanol ar bob ymweliad a thicio popeth oddi ar eich rhestr siopa mewn dim o dro.
Mae Marchnad y Nadolig ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac o 10.00am i 5.00pm ar ddydd Sul.
Canol Bywyd y Ddinas – Marchnad Abertawe!
Mae Marchnad arbennig Abertawe’n gwasanaethu cwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn, a dewch o hyd iddi yng nghanol y ddinas.
O dan ei chromen fawr, mae masnachwyr Marchnad Abertawe’n cynnig croeso cynnes, awyrgylch yr ŵyl a’r bwydydd mwyaf blasus a ffres ar gyfer eich gwledd Nadoligaidd.
Mae ein cigyddion yn darparu’r amrywiaeth gorau o gigoedd o safon a gallwch archebu eich twrci ar gyfer y Nadolig nawr i osgoi prysurdeb y Nadolig! Os ydych am ddewis bwydlen wahanol, mae ein gwerthwyr pysgod a’n stondinau llysiau a ffrwythau a siop feganaidd arbenigol wrth law gyda chynhwysion ffres a chynnyrch lleol.
Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddewis gwych o addurniadau ac anrhegion Nadolig i’r teulu cyfan. Felly am yr holl bethau y mae eu hangen arnoch am eich Nadolig perffaith, nid oes rhaid edrych ymhellach na Marchnad Abertawe!
Ar agor 7 niwrnod yr wythnos tan Noswyl Nadolig Mwy o wybodaeth www.marchnadabertawe.co.uk
Amser Cystadleuaeth – Cymerwch hunlun gyda Siôn Corn!
Mae coblynnod Siôn Corn wedi dosbarthu’r orsaf hunlun arbennig hon o Begwn y Gogledd er mwyn rhoi’r cyfle i siopwyr Marchnad Abertawe ennill twrci blasus ar gyfer y Nadolig! Mae’r coblynnod eisiau gweld eich llun gyda Siôn Corn, felly ewch i’r Orsaf Hunlun yng nghanol y Farchnad, postiwch eich llun a thagiwch ni ar Drydar @marchnadaber neu Instagram @marchnad_abertawe gyda’r hashnod #HunlunSiônCorn er mwyn cael cyfle i ennill!
Ymweliad Arbennig â Siôn Corn
Bydd Siôn Corn yn treulio amser yn ei Groto ar Stryd Portland rhwng 17 Tachwedd a 23 Rhagfyr i wireddu dymuniadau’r Nadolig a lledaenu hwyl yr ŵyl i blant yn Abertawe. Bydd bob plentyn yn derbyn anrheg a bydd cyfle i dynnu llun hefyd!
Pris
£4.75 (PTL £4.25) y plentyn i weld Siôn Corn.
£5.75 (PTL £5.25) y plentyn i weld Siôn Corn a chael llun gydag ef.
Oriau agor
Dydd Llun – dydd Gwener: 12.00pm – 5.00pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 10.30am – 5.00pm
Dwylo’n llawn bagiau siopa?
Cofiwch y loceri cyfleus sydd ar gael yn Llogi Cyfarpar Symudedd, Gorsaf Fysus Abertawe, lle gallwch adael eich bagiau mewn lle diogel wrth i chi barhau i siopa neu gael seibiant.
Prisiau’n dechrau o £2 yn unig. Ffoniwch 01792 461785 i gael mwy o fanylion.
Mae’n dymor am Nosweithiau Allan
Bydd dwy goeden Nadolig drawiadol, pêl anferth a thrawiadol a llawer o oleuadau hudolus! Daw siopa gyda’r hwyr ag Abertawe’n fyw, gyda’i hamrywiaeth o siopau yn ogystal â’i bywyd nos bywiog a’i thai bwyta ardderchog, bariau ffasiynol a thafarndai clyd sydd wedi derbyn gwobr y Faner Borffor. Y ffordd berffaith i orffen y dydd yng nghanol dinas Abertawe!