Ewch i chwilio am yr Arglwyddes Wen fwganllyd – os meiddiwch chi!
Gall pawb sy’n dwlu ar Galan Gaeaf geisio cael cip ar un o gymeriadau enwog Abertawe yr wythnos nesaf.
Bydd Castell Ystumllwynarth, sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, ac yn ôl pob sôn yn gartref i Arglwyddes Wen fwganllyd, yn cynnal digwyddiad newydd ar gyfer Calan Gaeaf a ysbrydolir gan dai ysbrydion Americanaidd.
Mae profiad y Castell Bwganllyd Llawn Arswyd, sy’n cynnwys effeithiau arbennig iasol ac actorion byw, yn cael ei lwyfannu gan Gyngor Abertawe.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae hwn yn ddigwyddiad newydd cyffrous yn ein rhaglen ddigwyddiadau gyfredol ar gyfer y ddinas, sy’n helpu i ddenu ymwelwyr ac yn estyn y tymor twristiaeth traddodiadol.”
Fel llawer o gestyll, credir bod gan Gastell Ystumllwynarth – â’i ddrysfa o goridorau a grisiau dirgel – ei ysbryd preswyl ei hun.
Mae gan gestyll hanesion erchyll ac nid ydynt ar gyfer y gwangalon – yn enwedig gyda’r nos – felly mae’r digwyddiad hwn yn ddelfrydol i Ystumllwynarth.
Anogir ymwelwyr â’r castell i ddod o hyd i’w ffordd yn ofalus drwy’r daeargelloedd a’r coridorau hynafol. Mae’r trefnwyr yn addo y bydd pethau annisgwyl o gwmpas pob cornel.
Cynhelir digwyddiad y Castell Bwganllyd Llawn Arswyd yng Nghastell Ystumllwynarth nos Fercher nesaf, 31 Hydref, o 6.00pm i 9.30pm. Bydd tri slot amser ar gael, a phob un yn para hyd at hanner awr.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i’r rheiny sy’n 8 oed ac yn hŷn. Mae’n rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Pris y tocynnau yw £6 y person (gan gynnwys diod) a rhaid cael tocyn a archebwyd ymlaen llaw er mwyn cael mynediad. Am ragor o fanylion, ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth.
I weld digwyddiadau Calan Gaeaf eraill y cyngor, ewch i www.enjoyswanseabay.com/cy/joio-abertawer-calan-gaeaf-hwn/