Rhaid wynebu’r gwir, nid yw arian yn tyfu ar goed! Ond newyddion gwych i rieni yn Abertawe – mae Plant Actif (cynllun gan Abertawe Actif) yn cynnig bargen aelodaeth sy’n golygu ymarfer corff diderfyn am £3.75 yn unig yr wythnos gyda thros 100 o weithgareddau i ddewis o’u plith mewn 5 canolfan hamdden yn Abertawe. Edrychwch ar Amserlen Plant Actif am restr y dosbarthiadau y gall eich plant gymryd rhan ynddynt ar ôl ymaelodi.
Mae’n ddechrau tymor ysgol newydd erbyn hyn ac mae’r hwyl a’r ffitrwydd i bobl ifanc yn gallu dechrau. Cyfle newydd i arbed arian yw ‘Aelodaeth Plant Actif‘ sy’n galluogi pobl ifanc dan 16 oed i ddefnyddio unrhyw sesiwn ‘talu a chwarae’ am £15 yn unig y mis.
Mae’n cynnig nofio, pêl-droed, pêl-rwyd, sglefrolio, atheltau, tenis, sesiynau peli mawr a sboncen ynghyd ag amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd gan gynnwys cylchedu i bobl ifanc, pilates, bocsymarfer a TRX i’r rhai 11 oed a hŷn.
3 Rheswm Da Dros Ddewis Abertawe Actif
- Gan fod mwy na 100 o weithgareddau yr wythnos ar gael, mae’n sicr y bydd rhywbeth sy’n addas ar gyfer pob oedran a gallu.
- Bydd y tîm o hyfforddwyr cymwys yn sicrhau bod eich plentyn yn mwynhau ei hun, yn dysgu sgiliau newydd ac yn gwneud ffrindiau wrth gadw’n ffit ac yn iach.
- Mae lle parcio am ddim.
Ffoniwch y ganolfan o’ch dewis neu ewch i abertaweactif.com am fwy o fanylion:
- Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt: 01792 235040
- Canolfan Hamdden Cefn Hengoed: 01792 798484/797082
- Canolfan Hamdden Treforys: 01792 797082
- Canolfan Hamdden Penlan: 01792 588079
- Canolfan Hamdden Penyrheol: 01792 897039
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English